Mae Ben Lake AS yn amlinellu opsiynau cyllidol amgen yn lle toriadau eang

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys Rachel Reeves cyn Datganiad y Gwanwyn 2025, yn annog Llywodraeth y DU i ailystyried eu cynlluniau i wneud toriadau pellach mewn gwariant g sicrhau bod Cymru’n derbyn cyllid teg.  

Bydd Datganiad y Gwanwyn, sydd yn cael ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar ddydd Mercher, 26 Mawrth, yn rhoi diweddariad am economi’r DU, cyllid cyhoeddus, ac amcanion economaidd y Llywodraeth. Bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn cyhoeddi ei rhagolygon economaidd a chyllidol diweddaraf ochr yn ochr â’r datganiad, gyda disgwyliadau y byddan yn gostwng eu rhagamcaniadau am economi y DU.  

Mae Ben Lake AS wedi codi pryderon y bydd ymateb Llywodraeth y DU i’r dirywiad hwn – torri gwariant cyhoeddus – yn cael effaith anghyfartal ar y cymunedau mwyaf bregus yng Nghymru, gan waethygu tlodi ac anghydraddoldeb. Mae hefyd wedi tynnu sylw at y goblygiadau ariannol posibl i Gymru yn sgil penderfyniadau yn ymwneud â Lloegr yn unig, megis diddymu GIG Lloegr, a allai leihau’r arian a ddyrannir i Gymru drwy Fformiwla Barnett.  

 

Yn ei lythyr, mae Ben Lake AS yn cynnig sawl opsiwn sy’n wahanol i ddull cyllidol presennol y Canghellor. Mae’r rhain yn cynnwys:  

  • Codi tâl Yswiriant Gwladol ar bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, megis cwmnïau cyfreithiol corfforaethol mawr; 
  • Cau bylchau treth sy'n caniatáu i werthwyr ar-lein sydd wedi'u lleoli dramor osgoi TAW; 
  • Dod â chymorthdaliadau i gwmnïau olew a nwy i ben. 

 

Mae AS Plaid Cymru hefyd yn galw ar y Canghellor i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau cyllidol hirsefydlog y mae Cymru yn eu hwynebu. Mae’n nodi bod dyraniad Fformiwla Barnett Gogledd Iwerddon 9% yn uwch na dyraniad Cymru, gan olygu bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu tanariannu.  

 

Yn ei lythyr, dywed Ben Lake AS: 

“Mae disgwyl i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ostwng eu rhagamcaniadau am berfformiad economi’r DU, ac rwy’n bryderus y bydd ymateb y Llywodraeth i dorri gwariant cyhoeddus yn niweidio’r rhai mwyaf bregus yng Nghymru drwy gynyddu tlodi a gwaethygu anghydraddoldeb. 

“Er hynny, bydd penderfyniadau gwariant sy’n berthnasol i Loegr yn unig, gan gynnwys y penderfyniad i gael gwared ar GIG Lloegr, yn cael effaith ar Gymru, ac mae’n bosib y gallai hyn arwain at leihau’r swm y mae Cymru’n ei dderbyn drwy Fformiwla Barnett.  

“Nodaf fod nifer o opsiynau ymarferol eraill wedi’u cynnig i godi refeniw ychwanegol i Lywodraeth y DU, a byddai’n dda gennyf ddeall a yw’r rhain wedi’u hystyried gan y Llwyodraeth cyn Datganiad y Gwanwyn. Awgrymwyd y dylid codi Yswiriant Gwladol ar bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, megis cwmnïau cyfreithiol tramor er enghraifft, neu gau unrhyw fylchau treth sy’n caniatáu i unrhyw gwmnïau sy’n gwerthu nwyddau ar-lein ond wedi’u lleoli dramor i osgoi TAW, yn ogystal â thorri’r cymorthdaliadau ar gyfer cwmnïau olew a nwy, gan y gallai hyn oll godi biliynau i helpu i'r Llywodraeth aros o fewn ei rheolau cyllidol presennol heb yr angen am ragor o lymder.  

“Mae Datganiad y Gwanwyn hefyd yn gyfle i roi cydraddoldeb ariannol i Gymru o gymharu â’r gwledydd datganoledig eraill fel bod gan Lywodraeth Cymru’r grymoedd i sbarduno a thyfu’r economi a gwella bywoliaethau. Er enghraifft, mae’r cyllid y mae Gogledd Iwerddon yn ei dderbyn drwy Fformiwla Barnett, sy’n seiliedig ar anghenion, 9% yn uwch na chyllid Cymru sy’n golygu bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru fel iechyd a thai yn colli allan ar unrhyw arian ychwanegol. Nid oes gan Gymru chwaith y gallu i fuddsoddi mewn isadeiledd craidd fel ysgolion, ysbytai a thrafnidiaeth gan bod gallu Lywodraeth Cymru i fenthyg arian cyfalaf wedi’i gyfyngu i £150 miliwn o gymharu â £450 miliwn Llywodraeth yr Alban. Byddwn yn ddiolchgar o deall a fydd Llywodraeth y DU yn ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn fel rhan o’i thrafodaethau parhaus â Llywodraeth Cymru ar Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru. 

“Rwy’n eich annog i ddefnyddio’r Datganiad y Gwanwyn hwn i gadw at addewid Llywodraeth y DU o beidio â dychwelyd at bolisi o lymder, ac i gyflwyno pwerau ariannu a buddsoddi teg i Gymru.”