Ann Davies AS wedi cyflwyno gwelliannau i’r Mesur Dur yn galw am ddiogelu dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru

Mae AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Ann Davies, wedi cyflwyno tri gwelliant i’r Mesur Diwydiant Dur (Gwladoli) i gryfhau amddiffyniadau a chyllid ar gyfer cymunedau dur yng Nghymru.

Byddai'r Mesur Diwydiant Dur (Gwladoli) yn caniatáu i'r llywodraeth gaffael 'gweithfeydd dur strategol' os yw'n ystyried bod caffael er budd y cyhoedd. Y nod yw galluogi gweithfeydd dur i barhau ac atal colli asedau, sgiliau a chapasiti'r gadwyn gyflenwi os yw gweithfeydd dur sy’n strategol bwysig mewn perygl o golli eu gallu i wneud dur neu haearn oherwydd cau, ansolfedd neu darfu posibl ar gyflenwad domestig. Dywed Llywodraeth y DU y bydd hyn yn ei galluogi i wladoli Dur Prydeining, yn amodol ei fod er budd y cyhoedd.

Dywedodd Ann Davies AS fod cau’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn 2024 yn sefyll fel yr “enghraifft fwyaf poenus” o’r esgeulustod diweddar o gymunedau diwydiannol Cymru, gan ddatgan bod Llywodraeth y DU wedi cymryd camau eithriadol i amddiffyn y gweithfeydd dur yn Scunthorpe a Rotheram ond na wnaeth yr un peth ym Mhort Talbot.

Bydd Ms Davies yn rhoi araith yn ystod y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin heno (dydd Llun 8 Mehefin) a disgwylir iddi ddweud nad yw’r angen am sicrwydd yn “damcaniaethol”, gan nodi’r tân mawr diweddar ym Mhort Talbot a achosodd ddifrod a tharfu sylweddol ar y gweithfeydd. Mae hi hefyd wedi dweud bod yr oedi disgwyliedig i'r cynlluniau ar gyfer ffwrnais drydan gwerth £1.25bn oherwydd problemau gyda chysylltedd trydanol “dim ond atgyfnerthu pryderon bod dur Cymru wedi cael ei drin yn rhy aml fel ôl-ystyriaeth yn hytrach na blaenoriaeth”.

Byddai gwelliant cyntaf Ann Davies AS yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ystyried gwladoli safleoedd dur yng Nghymru i atal colli swyddi ac atal cau gweithfeydd dur Cymru er mwyn sicrhau na all sefyllfa fel y colledion swyddi a welwyd ym Mhort Talbot ddigwydd eto ac i roi terfyn ar y safonau dwbl yn y ffordd y mae safleoedd dur Cymru a Lloegr wedi cael eu trin hyd yn hyn.

Byddai ei hail welliant yn ei gwneud yn ofynnol, pryd bynnag y darperir cyllid i safleoedd yn Lloegr, fod yn rhaid darparu cyllid cyfatebol hefyd i safleoedd yng Nghymru, gan sicrhau nad yw cymunedau dur Cymru yn cael eu gadael ar ôl.

Byddai ei thrydydd gwelliant yn atal cymorth ariannol rhag cael ei dynnu o Gronfa Cyfoeth Genedlaethol, sef prif ffynhonnell cronfa ddur £2.5 biliwn Llywodraeth y DU. Byddai hyn yn helpu i glustnodi'r Gronfa Ddur fel y gellir ei defnyddio i fuddsoddi mewn safleoedd dur Cymru, gan gefnogi'r buddsoddiad sylweddol sydd ei angen i drawsnewid i gynhyrchu dur carbon isel.

 

Wrth siarad cyn y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd AS Plaid Cymru, Ann Davies:  

“Mae cymunedau diwydiannol yng Nghymru yn gyfarwydd iawn gyda’r canlyniadau o gael eu gadael ar ôl a’u hesgeuluso pan maent angen cymorth fwyaf. Port Talbot yw’r enghraifft fwyaf poenus - lle caniatawyd i’r ffwrneisi chwyth gau yn 2024 gan arwain at golli miloedd o swyddi a dinistrio cymuned a oedd â hanes balch o wneud dur cynradd am dros 100 mlynedd.

“Pan oedd dyfodol gweithfeydd dur Port Talbot yn y fantol, dadleuodd Plaid Cymru y dylai popeth, gan gynnwys gwladoli, fod ar y bwrdd, ond cafodd y galwadau hynny eu gwawdio a’u hanwybyddu. Fodd bynnag, pan ddaeth dyfodol cynhyrchu dur yn Scunthorpe a Rotherham dan fygythiad, roedd Llywodraeth y DU yn barod i gymryd camau eithriadol i amddiffyn swyddi a diogelu diwydiant strategol.

“Nawr, rydyn ni’n gwybod y bydd oedi pellach i’r cynlluniau ar gyfer ffwrnais dur trydan gwerth £1.25bn ym Mhort Talbot oherwydd problemau gyda chysylltedd trydanol. Mae hyn ond yn atgyfnerthu ein pryderon bod dur Cymru wedi cael ei drin yn rhy aml fel ôl-ystyriaeth yn hytrach na blaenoriaeth.

“Mae’r Mesur hwn yn gyfle i newid hynny. Mae Cymru nid yn unig yn gartref i Bort Talbot, ond hefyd i safleoedd dur mawr yn Nhrostre, Llanwern, Shotton a Chaerdydd. Mae’r cymunedau hyn yn haeddu’r un ymrwymiad, amddiffyniad a buddsoddiad ag a roddwyd i ardaloedd eraill o’r DU. Dyna pam rydw i wedi cyflwyno gwelliannau i sicrhau bod safleoedd dur Cymru yn derbyn cefnogaeth gyfwerth pryd bynnag y bydd cyllid ar gael yn Lloegr, ac i ddiogelu adnoddau o fewn y Gronfa Ddur fel y gellir eu defnyddio i gefnogi’r newid i wneud dur carbon isel yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi sefyll ochr yn ochr â’n cymunedau diwydiannol, ac rydym yn benderfynol o sicrhau eu bod yn derbyn y tegwch y maent yn ei haeddu yn y blynyddoedd i ddod.”