Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae ‘darpar Lywodraeth o blaid Ewrop’ yng Nghymru

Heddiw, mae Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi cyfarfod â Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i’r DU, Pedro Serrano, yn Nhŷ Ewrop yn Llundain i drafod cryfhau perthynas Cymru ag Ewrop a gwella cydweithrediad mewn meysydd allweddol.

Daeth y cyfarfod yn sgil yr uwchgynhadledd ddiweddar rhwng yr UE a'r DU, lle cytunodd y Prif Weinidog Keir Starmer ac arweinwyr yr UE i leihau rhai o’r rhwystrau masnachu a theithio ar ôl Brexit. Er ei fod yn croesawu'r cynnydd, dywedodd Mr ap Iorwerth nad oedd y cytundeb yn mynd yn ddigon pell a galwodd ar Lywodraeth y DU i fod yn fwy uchelgeisiol wrth fynd ati i adfer y berthynas, gan gynnwys nesáu at ailymuno â'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau.

Ers gadael yr UE, mae Cymru wedi cael ei heffeithio’n waeth na rhannau eraill o’r DU, gyda cholledion o oddeutu £4 biliwn i'r economi, gostyngiad o £1.1 biliwn mewn allforion, a cholli allan ar £1 biliwn o gyllid strwythurol a gwledig blaenorol yr UE. Mae cytundebau masnach ar ôl Brexit hefyd wedi gwanhau sefyllfa amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu Cymru.

Mae Plaid Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy na mân welliannau’n unig, ac yn eu hannog i adfer y cysylltiadau economaidd a gwleidyddol â'r UE er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Trodd y cyfarfod hefyd at faterion tramor, gyda Mr ap Iorwerth hefyd yn codi pryderon ynghylch gweithredoedd Llywodraeth Israel yn Gaza ac yn ailddatgan cefnogaeth ei blaid i Wcráin.

 

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Hoffwn ddiolch i’r Llysgennad am gyfarfod adeiladol ar y berthynas bwysig rhwng Cymru a’r UE. Cyn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, roeddwn i eisiau egluro i’n partneriaid yn yr UE, bod Plaid Cymru o ddifrif ac yn onest ynglŷn â’r pwysigrwydd o wella ein cydweithrediad â’n cymdogion a bod darpar Lywodraeth yng Nghymru sydd o blaid Ewrop.

“Rhaid i'r uwchgynhadledd ddiweddar fod yn ddechrau, nid yn ddiwedd ar gryfhau cysylltiadau. Mae Brexit wedi achosi niwed dwfn i economi Cymru, ac oni bai bod y rhwystrau strwythurol i fasnach a buddsoddiad yn cael eu datrys, ni fydd amcanion Llywodraeth y DU o dwf yn medru cael eu gwireddu. Ailymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o wrthdroi’r difrod hwn. Mae hyn yn ymwneud â rhoi’r cyfleoedd y mae busnesau, ffermwyr a phobl ifanc Cymru yn eu haeddu.

“Ailadroddais gynnig Plaid Cymru ar gyfer Deddf Cymru i Gydweddu ag Ewrop – i adennill pwerau na ddylem fod wedi’u colli a chydweddu cyfraith Cymru â safonau hanfodol yr UE pan maent o fudd i Gymru.

 

Hefyd yn y cyfarfod trafodwyd nifer o faterion tramor eraill yn fras gan gynnwys Gaza a Wcráin. Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae Plaid Cymru wedi beirniadu defnydd Israel o drais eithafol yn gyson, ac rwy’n croesawu penderfyniad yr UE i ddechrau ar adolygu cydymffurfiaeth Israel  â’i rhwymedigaethau i gyfraith ryngwladol o dan Gytundeb Cymdeithas yr UE-Israel. Mynegais fy arswyd at droseddau Israel yn Gaza. Ailadroddais hefyd y byddai unrhyw lywodraeth yn y dyfodol dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i gydweithrediad Ewropeaidd i gefnogi Wcráin.

“Mae Plaid Cymru yn cynnig gweledigaeth o obaith – o Gymru sy’n gweithio gyda’n cymdogion, sy’n sefyll dros hawliau dynol, a sy’n rhoi dyfodol i'n pobl ifanc y gallant gredu ynddo.”