'Mae angen gwneud mwy', meddai Peredur Owen Griffiths AS.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wella'r gefnogaeth i gyn-filwyr, meddai Plaid Cymru.

Mae ymchwil blaenorol gan Blaid Cymru wedi dangos bod cyn-bersonél y lluoedd arfog yn aml yn cysgu ar y strydoedd, yn y carchar neu'n delio â chamddefnyddio sylweddau. Mae'r data diweddaraf gan Lywodraeth Cymru wedi datgelu bod 57% o gyn-filwyr yn dweud bod eu profiad o drosglwyddo i fywyd sifil yn wael, neu'n wael iawn. Mae 75% o gyn-filwyr hefyd yn credu bod angen gwella'r cymorth yn y maes hwn.

Galwodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyn-filwyr, Peredur Owen Griffiths AS, am wellhad sylweddol i ôl-ofal gyn-filwyr - gan gynnwys ymestyn blaenoriaeth tai i dalu am bum mlynedd ar ôl i ddinasyddion adael gwasanaeth milwrol.

Mae nifer anghymesur o uchel o bersonél y lluoedd arfog, neu gyn-bersonél y lluoedd arfog, yng Nghymru.

Roedd Cyfamod y Lluoedd Arfog, a ddaeth yn gyfraith 10 mlynedd yn ôl, yn ymateb i'r diffyg chwarae teg o ran trin cyn-filwyr ac er bod gwelliannau wedi'u gweld, mae angen gwneud mwy.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS:

"Y Diwrnod Cofio hwn, fe fyddai gwellhad sylweddol yn y gwasanaethau cymorth sydd yn cadw cyn-filwyr mewn cof drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig ar Sul y Cofio, yn dyst parhaol a phriodol i bawb sydd wedi gwasanaethu.

"Mae grŵp arbenigol y lluoedd arfog, sy'n cynghori ar sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ddiwallu anghenion cymuned y lluoedd arfog, wedi dweud bod sawl peth y gallai'r Llywodraeth yng Nghymru ei wneud i wella pethau.

"Mae hyn yn cynnwys cynllun cenedlaethol i weithredu newidiadau o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006, ymrwymiad i ariannu'n barhaol y gronfa Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru, ac ymestyn blaenoriaeth tai i gwmpasu pum mlynedd ar ôl gadael y gwasanaeth milwrol.

"Yn y cyfamser, mae angen i Lywodraeth San Steffan gynyddu a gwneud mwy i bawb sydd wedi gwasanaethu ac sydd angen cymorth parhaus. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y gwelwn ostyngiad sylweddol yn nifer o gyn-bersonél y lluoedd arfog sy'n bennu lan yn ddigartref neu gyda rhyw fath o gaethiwed. Bydd hefyd yn lleddfu'r baich ar y sector elusennol, sy'n gorfod gwneud yr hyn y dylai unrhyw Lywodraeth gyfrifol fod yn ei wneud yn y lle cyntaf.”