COP26: Plaid yn galw am strategaeth i gefnogi sector pysgota “cynaliadwy” a “hyfyw” yng Nghymru
Mae risg y bydd pysgota masnachol yn “diflannu'n llwyr”, rhybuddia Cefin Campbell AS.
Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth newydd i gefnogi'r diwydiant pysgota yng Nghymru, meddai Plaid Cymru.
Mewn dadl yn y Senedd heddiw, bydd llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig ac Amaethyddiaeth, Cefin Campbell AS, yn rhybuddio bod gweithgarwch pysgota masnachol yn gostwng i'r fath raddau, mae yn beryg iddo “ddiflannu'n llwyr”.
Galwodd Mr Campbell am strategaeth i gefnogi “sector bywiog, cynaliadwy a hyfyw” ac i ddiogelu'r diwydiant yn y dyfodol er mwyn caniatáu iddo chwarae ei ran yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac iddo barhau i gyfrannu at economi Cymru.
Mae'r diwydiant pysgota yn cyfrannu'n fawr at economi Cymru, gyda glaniadau bwyd môr yng Nghymru yn 2016 yn cyfrannu £15.3miliwn i'r economi, ond mae nifer y pysgod sy'n cael eu dal a'u docio yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.
Yn 2012, glaniodd llongau'r DU 26,000 tunnell o bysgod i borthladdoedd Cymru. Gostyngodd hynny yn 2016 i 15,000 tunnell gan longau ym mhob rhan o'r fflyd ac i 9,600 tunnell yn 2020 - gyda fflyd Gwlad Belg yn glanio i Gymru yn cyfrif am draean o hyn.
Dim ond 4,337 tunnell oedd yn glanio i borthladdoedd Cymru yn 2020.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Cefin Campbell AS,
“Mae treftadaeth bysgota gyfoethog yng Nghymru, ac mae'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector yn cyfrannu'n economaidd at ein hardaloedd gwledig ac arfordirol.
“Ond mae'r pwysau ar y sector a'r dirywiad mewn gweithgarwch pysgota masnachol yn golygu bod perygl i'r diwydiant ddiflannu yn llwyr.
“Mae nifer o gyfleoedd wedi'u colli dros y deng mlynedd diwethaf i ddarparu trefn polisi pysgodfeydd gwell i Gymru. Mae angen diweddaru strategaethau sydd wedi dyddio os ydym am ddiogelu ein sector pysgodfeydd yn y dyfodol, gan eu galluogi i gyfrannu at economi Cymru, a chwarae eu rhan yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
“Byddai strategaeth bysgota effeithiol sy'n ystyried yr hinsawdd yn lleihau'r allyriadau carbon sy'n dod yn uniongyrchol o bysgota Cymru; a gwella bioamrywiaeth forol drwy leihau'r difrod o arferion pysgota anghynaladwy.
“Mae angen strategaeth arnom i gefnogi sector pysgota bywiog, cynaliadwy a hyfyw yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hon, a heb oedi pellach. Bydd effaith peidio â gwneud hynny yn cael ei deimlo yn economaidd ac yn ddiwylliannol, yn ogystal ag amharu ar y gadwyn cyflenwi bwyd.”