Fel rhan o’r ymrwymiadau a nodir yn y Cytundeb Cydweithio, cyhoeddir pecyn newydd o fesurau heddiw (dydd Mercher 2 Mawrth) i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Mae’r mesurau newydd yn cynnwys cynnydd i’r lefel uchaf o bremiymau treth gyngor ar gyfer ail gartrefi, yn ogystal â rheolau treth lleol newydd ar gyfer gwyliau.

Mae’r mesurau’n rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael ag ail gartrefi a thai anfforddiadwy, fel y nodir yn y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Yr ymrwymiad yw cymryd camau radical ar unwaith gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthiant.

Bydd y lefel uchaf y gall awdurdodau lleol osod premiymau treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn cynyddu i 300%, a fydd yn weithredol o fis Ebrill 2023.

Bydd y meini prawf ar gyfer llety hunanarlwyo sy’n atebol am ardrethi busnes yn hytrach na’r dreth gyngor hefyd yn newid o fis Ebrill nesaf.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Sian Gwenllian AS,

“Mae’n amlwg ein bod ni, fel gwlad, yn wynebu argyfwng tai. Ni all cymaint o bobl fforddio byw yn eu hardaloedd lleol, ac mae’r sefyllfa wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth, gan alluogi cynghorau i ymateb i’w hamgylchiadau lleol, a dechrau cau’r bwlch yn y gyfraith bresennol. Mae’n gam cyntaf, ond pwysig, ar daith tuag at system dai newydd sy’n sicrhau bod gan bobl yr hawl i fyw yn eu cymuned.

 “Drwy’r Cytundeb Cydweithio, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno pecyn o fesurau i fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau yn y farchnad dai. Dim ond un rhan o’r pecyn ehangach hwnnw yw’r cyhoeddiad heddiw. Mae ail gartrefi yn symptom o broblem ehangach - marchnad sy’n trin eiddo, nid fel cartref, ond fel ffordd o wneud elw. Drwy weithio ar draws y pleidiau yn y Senedd, byddwn yn cyflwyno mwy o fesurau, cyn gynted ag y gallwn, i wneud prisiau tai a rhenti yn wirioneddol fforddiadwy i bobl.”

 Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol:

 “Bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac yn rhoi mwy o gymorth i gymunedau lleol wrth fynd i’r afael â’r effeithiau negyddol y gall ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor eu cael. Dyma rai o’r ysgogiadau sydd ar gael i ni wrth inni geisio creu system decach.

“Byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i gynyddu’r cyflenwad a’r tai sydd ar gael, fel y dangosir gan y £1bn o gyllid i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, a gynhwyswyd yn y gyllideb a gyhoeddais ddiwedd y llynedd.”