Tai, Gwaith, Iaith – Angen strategaeth newydd i atal diboblogi

Ar drothwy sesiwn banel arbennig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddatblygu strategaeth newydd gynhwysfawr i atal diboblogi mewn cymunedau Cymreig.

Wrth gyfeirio at ffigyrau sy’n dangos cwymp yn y nifer o bobl iau mewn ardaloedd megis Môn a Phenfro, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS mai “tai, gwaith, ac iaith” yw conglfeini cymunedau hyfyw a gwydn.

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru fod ei blaid wedi sicrhau sawl gweithred gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru yn sgil y Cytundeb Cydweithio, ond bod yn rhaid i’r Llywodraeth fynd llawer pellach os am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac os am wella gwytnwch economaidd cymunedau cefn gwlad.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae pobl ifanc Cymru yn cael eu gorfodi i adael eu cymunedau yn eu cannoedd oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith a phrinder cartrefi fforddiadwy.

 “Mae gennym genhedlaeth o dalent sy’n ysu i wneud cyfraniad ond mae methiant Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael a’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau yn golygu fod diffyg cyfleoedd iddynt.

 “Rhwng dau gyfrifiad 2011 a 2021, gwelwyd cwymp o 2,300 yn y nifer o bobl 35-49 oed sy’n byw ar Ynys Môn tra bod y ffigwr cyffelyb ar gyfer Sir Benfro yn 4,000.

 “Tai, gwaith, iaith – dyna gonglfeini cymunedau hyfyw a gwydn. Dyna pam fod Plaid Cymru wedi blaenoriaethu taclo’r argyfwng tai fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gan berswadio Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar ail gartrefi. Dyna pam hefyd ein bod wedi sicrhau cyllid i’r cynllun Arfor 2 sy’n buddsoddi mewn gwella gwytnwch economaidd cadarnleoedd yr iaith. 

 “Ond mae angen i’r Llywodraeth fynd llawer pellach. Nid dim ond prinder cartrefi fforddiadwy sy’n gorfodi pobl ifanc i symud ond hefyd y diffyg swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n dda. 

 “Mae’n rhaid felly i Lywodraeth Lafur Cymru ddatblygu strategaeth newydd bellgyrhaeddol i fynd i’r afael a diboblogi ac i ddenu buddsoddiad cynaliadwy i gadarnleoedd ein hiaith.

 “Rhaid i hyn gynnwys cefnogaeth frys i ardaloedd megis Llangefni a Chapel Hendre sydd wedi colli cannoedd o swyddi yn ddiweddar wrth i gwmnïau godi pac yn sgil yr argyfwng costau byw a Brexit.

 “Mae gwarchod y Gymraeg hefyd yn fwy na gosod targed – rhaid gwarchod y cymunedau hynny ble  gall yr iaith ffynnu. Mae data’r Cyfrifiad yn dangos fod llai o blant yn credu eu bod yn medru’r Gymraeg nag oedd ddeng mlynedd yn ôl, ac mae’r amcan o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050 yn ymddangos yn gynyddol afrealistig ar sail ymagwedd a pholisïau presennol y Llywodraeth. 

 “Dengys y Cyfrifiad hefyd fod cwymp yn y nifer o oedolion sy’n siarad Cymraeg yn yr ardaloedd ble fo cynnydd yn y nifer o ail gartrefi, ac mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cael pecyn cynhwysfawr o bolisïau i fynd i’r afael a’r heriau sy’n wynebu meysydd tai, gwaith ac iaith, a hynny ar fyrder.”