Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi cyhuddo llywodraeth Cymru o siomi staff y GIG, wedi i bob un o’r pedwar undeb GIG mwyaf bleidleisio i wrthod y cynnig cyflog o 3 y cant.

Yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth 5 Hydref), dywedodd Adam Price fod y 3 y cant yn “ergyd i filoedd o weithwyr gofal iechyd” o ystyried y gost gynyddol o fyw.

Wrth geisio cyflwyno achos dros weithwyr y GIG, cafodd Mr Price ei heclo gan feinciau cefn Llafur - sefyllfa a ddisgrifiodd arweinydd y Blaid fel un “anhygoel”.

Dywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru,

I lawer o weithwyr y GIG mae’r rhan fwyaf o’r cynnydd o 3% eisoes wedi’i ganslo gan y cynnydd hwn yng nghyhoeddiadau pensiwn y GIG y mis hwn. Bydd y lefi iechyd a gofal cymdeithasol newydd yn dileu bron i hanner y cynnydd y flwyddyn nesaf. A hynny hyd yn oed cyn i chi ystyried costau argyfwng byw, ac erydu cyflog dros yr un mlynedd ar ddeg diwethaf, a chydnabu hyd yn oed y Corff Adolygu Cyflogau.

“Gyda 1,600 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru, rhaid i’r llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i argyhoeddi’r rhai sy’n parhau y dylent aros – nid rhwystro  dyfarniad cyflog is na chwyddiant yw’r ffordd i wneud hyn.

“Allwch chi eu beio’n fawr pan fydd staff y GIG yn teimlo eu bod wedi’u siomi, eu tanbrisio a’u hanwybyddu?