Plaid Cymru yn galw am ddarlledu holl gemau rygbi Cymru yn fyw ar S4C

Cadarnhawyd na fydd cefnogwyr rygbi Cymru yn gallu gwylio gemau rhyngwladol Cymru yn yr hydref ar deledu am ddim. Dim ond ar Amazon Prime y bydd gemau'n cael eu darlledu'n fyw, sy'n eistedd y tu ôl i wal dalu.

Mae hyn yn nodi newid o gemau blaenorol, sydd wedi bod ar gael i'w gwylio'n fyw ar S4C am ddim. Y rheswm pam y gwnaed y newid yw oherwydd bydd Amazon Prime yn darparu sylwebaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros chwaraeon, Heledd Fychan AS,

“Mae hyn yn gosod cynsail peryglus o ran dyfodol darlledu chwaraeon yng Nghymru ac yn arbennig yn y Gymraeg. Mae’n codi cwestiynau hefyd ynglŷn a dyfodol S4C, wrth iddynt golli yr hawl i ddarlledu gemau rygbi Cymru gan gynnig model i ddarlledwyr eraill yn y dyfodol.

Mewn gwirionedd, cynnig gwag yw y botwm coch gan Amazon. Os nad ydych eisoes yn talu am Amazon Prime, bydd angen i chi dalu i wylio yn Gymraeg. A beth am dafarndai a clybiau sydd wastad wedi dangos y gemau yn y Gymraeg?

“Dyla’i pob gêm gan ein tîmau cenedlaethol fod am ddim i wylio ar S4C. Mae rygbi Cymru yn perthyn i bawb yng Nghymru – rhaid inni beidio â chael ein prisio allan o’n diwylliant ein hunain.