Liz Saville Roberts yn galw am ystyried oedran y stoc tai ac effeithlonrwydd ynni 

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi rhybuddio y gallai cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfyngu ar gefnogaeth i aelwydydd gyda’u biliau ynni adael nifer anghymesur yng Nghymru heb gymorth, wrth i’r Canghellor Rachel Reeves baratoi i amlinellu amodau newydd ar gyfer cymorth.

Disgwylir i'r Canghellor nodi'r amodau a fyddai'n llywio unrhyw gefnogaeth i aelwydydd yn y dyfodol os bydd biliau ynni'n codi ar ôl i'r cap prisiau presennol ddod i ben ym mis Mehefin, gydag awgrymiadau y byddai unrhyw becyn wedi’i dargedu yn hytrach na wedi’i ddarparu i bawb.

Tynnodd Ms Saville Roberts sylw at sefyllfa arbennig o fregus cymunedau gwledig Cymru a rheiny oddi ar y grid, gan rybuddio bod cynlluniau a luniwyd yn bennaf o amgylch y defnydd o nwy drwy’r prif gyflenwad yn peryglu eithrio miloedd o aelwydydd.

Cymru sydd â'r stoc tai hynaf yn y DU, gyda 26% o gartrefi wedi'u hadeiladu cyn 1919. Mae Plaid Cymru hefyd wedi rhybuddio bod stoc tai llai effeithlon o ran ynni a lefelau uwch o dlodi tanwydd yn golygu bod aelwydydd Cymru yn fwy agored i unrhyw gynnydd sydyn mewn prisiau.

Galwodd Ms Saville Roberts ar y Prif Weinidog, Keir Starmer, i sicrhau bod llywodraethau datganoledig yn cymryd rhan lawn yn y broses o lunio unrhyw ymateb i gostau ynni cynyddol, gan gynnwys drwy uwchgynhadledd pedair gwlad rhwng y DU a’r llywodraethau datganoledig.

 

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i:

  • Sicrhau bod unrhyw gynllun cymorth yn adlewyrchu anghenion penodol Cymru, gan gynnwys aelwydydd gwledig a rheiny oddi ar y grid
  • Sicrhau mynediad teg i'r rhai mewn cartrefi hŷn, llai effeithlon o ran ynni
  • Cynnal uwchgynhadledd pedair gwlad i gynllunio a darparu cefnogaeth yn effeithiol

 

Cyn datganiad y Canghellor ddydd Mawrth, dywedodd Ms Saville Roberts:

“Mae unrhyw gynllun wedi’i dargedu a luniwyd ar sail cyfartaleddau’r DU mewn perygl o anywbyddu’r realiti i aelwydydd Cymru, lle mae incwm yn is, cartrefi’n hŷn, ac effeithlonrwydd ynni’n waeth.

“Os caiff y gefnogaeth ei chyfyngu heb gydnabod amgylchiadau penodol Cymru, bydd aelwydydd ar eu colled.

“Mae gormod o gynlluniau’r DU wedi’u cynllunio gyda’r grid nwy mewn golwg, ond mae rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru yn dibynnu ar olew neu danwydd amgen. Heb gydnabod hyn, bydd llawer o deuluoedd yn cael eu hanwybyddu’n llwyr. Ni fydd y gefnogaeth sydd eisoes wedi’i chyhoeddi ar gyfer cartrefi oddi ar y grid yn ddigonol o ystyried lefel yr angen.

“Ni allwch gynllunio system deg heb ystyried y ffaith bod llawer o gartrefi Cymru yn anoddach ac yn ddrytach i’w gwresogi. Fydd dull un maint i bawb ddim yn sicrhau tegwch.

“Mae hefyd yn werth nodi bod trigolion yng Ngogledd Cymru a Merswy yn wynebu’r ffioedd sefydlog uchaf yn y DU. Mae fy etholwyr yn gorfod talu bron i £100 yn fwy y flwyddyn na'r rhai sy'n byw yn Llundain, felly byddwn yn annog y Canghellor, unwaith eto, i edrych ar ffioedd sefydlog annheg a mynd i'r afael â nhw. Ni ddylai pobl fod yn talu mwy am eu biliau ynni oherwydd ble maen nhw'n byw.

“Mae’r penderfyniadau a wnaed yn San Steffan yn arwain at ganlyniadau gwahanol iawn yng Nghymru. Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â thegwch, rhaid iddi weithio gyda llywodraethau datganoledig i sicrhau bod cefnogaeth yn adlewyrchu’r realiti ar lawr gwlad. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi galw am uwchgynhadledd pedair gwlad i gytuno ar ddull ar y cyd.

“Mae hwn yn brawf i weinidogion i weld a ydynt yn deall sut mae eu penderfyniadau’n glanio mewn gwahanol rannau o’r DU. Nid yw polisi sy’n anwybyddu amgylchiadau Cymru yn deg, a bydd yn gadael pobl yn ein cymunedau i dalu’r pris.”