Mae llefarydd Plaid Cymru ar Addysg Siân Gwenllian AS heddiw wedi nodi addewid ei phlaid i recriwtio 4,500 o athrawon ychwanegol a staff cymorth arbenigol yn ysgolion Cymru, pe bai'n ffurfio'r llywodraeth nesaf ar ôl yr etholiad ym mis Mai.

Gan nodi gweledigaeth y blaid i gynnig “i bob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo'u cod post neu gefndir, y dechrau gorau mewn bywyd”, canmolodd Siân Gwenllian athrawon a holl staff yr ysgol am “weithio rhyfeddodau” drwy gydol y pandemig i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg er gwaethaf yr amgylchiadau heriol.

Dywedodd Siân Gwenllian hefyd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn codi'r cyflog cychwynnol i athrawon yng Nghymru o 10% i £30,000 ac yn gweithio tuag at wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr, gan roi mwy o gyfleoedd datblygiad proffesiynol a chefnogaeth i athrawon drwy gydol eu gyrfaoedd.

Dywedodd Siân Gwenllian AS:

“Rwyf am i bob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo'u cod post neu gefndir, gael y dechrau gorau mewn bywyd.

“Rhan bwysig o hynny yw sicrhau bod gan ein hysgolion gymaint o adnoddau â phosibl, nid yn unig o ran nifer yr athrawon ond hefyd eu arbenigedd wrth gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu ychwanegol.

“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflogi 4,500 o athrawon ychwanegol a staff cymorth arbenigol mewn ysgolion ledled Cymru erbyn diwedd ein tymor cyntaf.

“Mae athrawon wedi cael cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig ac wedi gweithio rhyfeddodau i sicrhau bod ein pobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg, waeth beth fo'r amgylchiadau heriol.

“Ar hyn o bryd mae un o bob tri athro yn rhoi'r gorau i'r ystafell ddosbarth o fewn eu pum mlynedd gyntaf. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn mynd i'r afael â hyn nid yn unig drwy sicrhau bod cyllid ar gael i recriwtio mwy o athrawon ond i wella'r cynnig i'r rhai sydd eisoes yn y proffesiwn.

“Byddwn yn gwneud hyn drwy godi cyflog cychwynnol athrawon yng Nghymru o 10% i £30,000 o 2022 a darparu seibiannau sabothol mewn gyrfa i athrawon.

“Mae Plaid Cymru hefyd yn ymrwymo i wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr, gan ddechrau gyda gofyniad i bob athro newydd gymhwyso fod yn gweithio tuag at radd Meistr mewn addysg a ariennir gan y llywodraeth neu bwnc sy'n berthnasol i'w gwaith dosbarth o fewn pum mlynedd. 

“Dylai pob gweithiwr addysg, athrawon llawn amser ac athrawon cyflenwi fel ei gilydd, gael mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol eu gyrfaoedd.

“Mae'n bryd i lywodraeth Cymru roi'r gydnabyddiaeth a'r wobr lawn y maent yn eu haeddu i athrawon. Dyna beth mae pleidlais i Blaid Cymru yn ei gynnig ar 6ed Mai.”