‘Y ‘newid’ mwyaf pwerus fyddai cael gwared ar y terfyn dau blentyn’
Dywed Ann Davies AS fod polisi yn cael ‘effaith ddinistriol’ ar blant yn Sir Gaerfyrddin
Mae llefarydd Plaid Cymru ar Waith a Phensiynau, Ann Davies AS, wedi galw heddiw (dydd Gwener 12 Gorffennaf) ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer, i gyflawni ei addewid o ‘newid’ drwy ddod â’r cap budd-dal dau blentyn i ben, polisi sydd wedi gadael miliynau o blant ar draws y DU mewn tlodi.
Tynnodd Ms Davies sylw at y ffaith bod mwy na 65,000 o blant yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y terfyn dau blentyn, sef 11% o'r holl blant.
Mae'r terfyn dau blentyn yn effeithio ar deuluoedd sydd â hawl i fudd-daliadau sydd wedi cael trydydd plentyn neu blentyn dilynol ar ôl 6 Ebrill 2017. Gwrthodir £3,235 y flwyddyn fesul plentyn i'r rhieni hyn o gymharu â theuluoedd sydd â thrydydd plentyn neu blentyn dilynol wedi'i eni cyn y dyddiad hwnnw.
Dywedodd Ms Davies mai Araith y Brenin yr wythnos nesaf fyddai “cyfle’r Prif Weinidog i ddangos bod newid o dan Lafur yn golygu mwy na geiriau”.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Waith a Phensiynau ac AS Caerfyrddin, Ann Davies:
“Enillodd Keir Starmer yr Etholiad Cyffredinol ar neges syml o newid. Y newid mwyaf pwerus y gallai ei weithredu yw i godi miliynau o blant allan o dlodi trwy ddod â’r cap creulon ar fudd-daliadau dau blentyn i ben.
“Fel cyd-berchennog meithrinfa i blant, rwyf wedi gweld effaith ddinistriol tlodi plant ar deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin. Ni ddylid cosbi plant am gael brodyr a chwiorydd – ac mae’n siomedig iawn bod Llafur yn penderfynu parhau â’r polisi Torïaidd creulon hwn.
“Nod Plaid Cymru yw adeiladu Cymru lle mae pob plentyn yn ffynnu, ond gyda 65,000 o blant yng Nghymru yn teimlo pwysau aruthrol y mesur hwn, mae'n amlwg bod gennym ffordd hir o'n blaenau. Araith y Brenin yr wythnos nesaf yw cyfle’r Prif Weinidog i ddangos bod newid o dan Lafur yn golygu mwy na geiriau. Mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Lafur y DU i gael gwared ar y terfyn dau blentyn a buddsoddi yn nyfodol ein plant.”