Gwerthwyd “bron i hanner” o stoc dai Dwyfor Meirionnydd fel ail gartref y llynedd yn ol ystadegau newydd
“Mae hwn yn argyfwng fydd yn dinistrio cymunedau oni chymerir camau brys” - Mabon ap Gwynfor AS – Plaid Cymru
Gwerthwyd bron i hanner y stoc dai yn Dwyfor Meirionnydd fel ail gartrefi y llynedd mae ystadegau newydd wedi datgelu.
Mae data newydd gan Awdurdod Cyllid Cymru yn dangos bod 44% o’r eiddo a werthwyd yn Dwyfor Meirionnydd yn 2020-21 wedi’u dosbarthu fel Cyfraddau Uwch – lle byddai’r mwyafrif helaeth ohonynt wedi cael eu gwerthu fel ail gartrefi yn ôl AS Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor.
Mae'r ystadegau hefyd yn dangos mai Dwyfor Meirionnydd a gyfrannodd fwyaf mewn treth trafodion tir i goffrau trysorlys Cymru oherwydd y nifer uchel o werthiannau o eiddo Cyfraddau Uwch, gyda Ynys Môn a Gŵyr yn ei dilyn.
Galwodd Llefarydd Tai Plaid Cymru ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yr ystadegau yn “frawychus” a galwodd am weithredu brys gan y Llywodraeth.
Daw’r ffigurau cyn y rali a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith a fydd yn cael ei chynnal heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 10) i brotestio “cwymp cymunedau” yn sgil yr argyfwng a bydd yn cael ei chynnal ar safle argae Tryweryn ger y Bala.
Galwodd Mr ap Gwynfor, a fydd yn siarad yn y rali heddiw, am ymyrraeth uniongyrchol i liniaru’r argyfwng gan gynnwys treblu’r dreth Trafodiad Tir ar brynu Ail Gartrefi a newid deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi.
Rhybuddiodd oni bai bod camau’n cael eu cymryd i weithredu, byddai “mwy o gymunedau” yn cael eu colli.
Meddai Llefarydd Tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor MS,
“Mae’r ystadegau hyn yn frawychus ac yn cadarnhau’r hyn yr oeddem eisoes yn ei wybod: Mae hwn yn argyfwng a fydd yn dinistrio cymunedau os na chymerir camau brys gan y Llywodraeth.
“Gwerthwyd bron i hanner y stoc dai yn fy etholaeth i yn Dwyfor Meirionnydd fel ail gartrefi ac yna Sir Benfro, Gorllewin Caerfyrddin ac Ynys Mon - ardaloedd lle mae cymunedau yno wedi cael eu difetha gan argyfwng yr ail gartrefi.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi aros a gwylio wrth i’n cymunedau gael eu hamlyncu gan yr argyfwng tai. Roedd eu cyhoeddiad diweddaraf yr wythnos hon yn wan ac yn cicio'r broblem lawr y lon. Ni fydd ymgynghoriadau, treialon a chynlluniau peilot yn ddigonol. Yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau yw gweithredu - ac yn gyflym.
“Mae Plaid Cymru yn mynnu ymyriadau uniongyrchol i liniaru’r argyfwng tai, gan gynnwys treblu’r dreth Trafodiad Tir ar brynu Ail Gartrefi, newid deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi, a chau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion tai ail cofrestru eu heiddo fel “busnesau” er mwyn osgoi talu premiwm treth y cyngor, a diwygio’r Ddeddf Llywodraeth Leol i rymuso awdurdodau lleol i reoli’r stoc dai yn well.
“Fy neges i’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yw hyn. Gweithredwch nawr - cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Oni bai eich bod yn cymryd camau i weithredu nawr, yna byddwn yn gweld mwy o gymunedau yn cael eu colli, a mwy o bobl yn symud o'u cymunedau. Mae gan gan bobl yr hawl i beit adra. Mae gan bawb hawl i fyw gartref."