“Nid nawr yw'r amser i siarad – Mae angen gweithredu ar gyfer ein diwydiant twristiaeth”
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhybudd ymlaen llaw o'r holl gynlluniau ar gyfer y diwydiant twristiaeth.
Dywedodd Gweinidog Cysgodol Yr Economi, Helen Mary Jones AS ei bod yn ofni, pan roddir y signal i ddechrau agor y diwydiant twristiaeth eto, na fydd busnes wedi cael digon o amser i wneud y newidiadau angenrheidiol oherwydd diffyg canllawiau amserol, ac i rai, y gallai fod "yn rhy hwyr".
Yng Nghymru, mae busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, gan gynnwys atyniadau i dwristiaid, wedi aros ar gau oherwydd ofnau y byddant yn ategu at ledaenu’r coronafeirws. Mae traean o'r miliwn neu fwy o weithlu Cymru ar hyn o bryd ar ffyrlo, a'r ardaloedd sy'n dibynnu fwyaf ar dwristiaeth - Conwy, Sir Benfro a Phowys - sy'n cael eu heffeithio fwyaf.
Roedd Ms Jones hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ddod â'r trafodaethau â San Steffan i ben llanw fel y gellir gwybod mwy am y cynnig a addawyd o gymorth pellach. Gallai fod yn fâd achub y mae wir angen ar rai busnesau i’w hatal rhag cau eu drysau am byth. Dywedodd heb hyn na allwn fod yn sicr pan fyddwn yn ailagor twristiaeth “y bydd y diwydiant yn dal i fod yno."
Tynnodd Ms Jones sylw at bwysigrwydd datrysiad sy'n seiliedig ar anghenion a gofynnodd i unrhyw becyn cymorth sy'n dod o San Steffan gael ei seilio ar "raddfa a phwysigrwydd twristiaeth yng Nghymru."
Ychwanegodd Ms Jones "Mae ar Gymru angen ateb sy'n addas i Gymru."
Dywedodd Helen Mary Jones AS, Gweinidog Cysgodol Yr Economi Plaid Cymru:
"Alla i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i roi rhybudd teg i'r diwydiant twristiaeth am unrhyw newidiadau y gallen nhw eu gwneud. Un peth yw rhoi arwydd yn gofyn i ymwelwyr olchi eu dwylo. Mater arall yw adeiladu ail ddrws er mwyn creu system un ffordd o amgylch eich safle. Mae angen manylion arnom, ac mae ei angen arnom nawr.
"Rwyf hefyd yn galw am eglurder a llinell amser clir ar y pecynnau cymorth tymor hir a addawyd. Gyda thraean o weithlu Cymru ar ffyrlo, os na roddir sicrwydd pellach ar yr haen nesaf o gymorth yn fuan, gallem weld llawer o'r bobl hyn yn cael eu diswyddo.
"Ac yn olaf, mae angen ateb yng Nghymru sy'n addas i Gymru. Ni ellir cyfrifo unrhyw becyn cymorth newydd sy'n dod o San Steffan ar sail poblogaeth, ond rhaid iddo fod yn seiliedig ar faint a phwysigrwydd twristiaeth yng Nghymru. Yr ydym yn dibynnu cymaint yn fwy ar dwristiaeth na rhannau eraill o'r DU, ac mae'n rhaid i unrhyw becyn cymorth i'r diwydiant twristiaeth adlewyrchu hynny.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau â San Steffan ers amser maith, ond mae'n siŵr bod y cyfnod ar gyfer siarad bellach wedi'i basio – mae angen gweithredu, neu sut y gallwn fod yn sicr pan fyddwn yn ail-agor twristiaeth y bydd y diwydiant, a'i seilwaith, yn dal yno?"