“Os nad yw San Steffan am wneud hynny drosom, yna rhowch y pwerau inni fel y gallwn ei wneud ein hunain” – Luke Fletcher, AS

Mae Plaid Cymru wedi galw o’r newydd am dreth ffawdelw (windfall tax) ar gwmnïau ynni, sydd wedi adrodd am elw yn y biliynau, gan fod prisiau ynni'n codi'n arswydus yn y DU.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher AS, y dylai pŵer i drethu a rheoleiddio’r sector ynni berthyn i Gymru.

Daw’r galwadau wrth i’r cap ar brisiau ynni godi 54% yn y DU.

Mae’r Prif Weinidog wedi cyfaddef o’r blaen mai dyma polisi’r blaid Lafur, ond mae wedi bod yn amharod i gytuno i’r pwerau hyn ddod i Gymru, gan ddweud “mae’n fater syml bod arnom angen Llywodraeth yn San Steffan sy'n barod i wneud y peth iawn.”

Dywedodd Mr Fletcher na all Cymru aros am San Steffan pan fo’n fater mor frys, a dywed fod yn rhaid i Gymru sefyll dros ei phobl a mynnu’r pwerau i drethu a rheoleiddio'r sector ynni, i bennu treth ffawdelw (windfall tax), i dorri TAW (VAT), i bennu cap ar brisiau, ac, os oes angen, i adfer perchnogaeth gyhoeddus.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher AS,

“O holl wledydd y DU, bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio fwyaf ar bobl Cymru, gan mai gennym ni mae’r lefel uchaf o dlodi incwm cymharol. Bydd unrhyw gynnydd mewn costau byw yn cael effaith sylweddol, felly gallai cynnydd o 54% yn y cap ar brisiau ynni fod yn drychinebus i gymaint o aelwydydd yng Nghymru.

“Dros y gaeaf, helpodd Llywodraeth Cymru gyda chynllun cymorth tanwydd gaeaf, ond mae’r cynnydd mewn prisiau yn digwydd nawr, yn y gwanwyn – ni all y cymorth ddod i ben nawr. I deuluoedd yng Nghymru, gallai ychydig gannoedd o bunnoedd wneud gwahaniaeth, ac eto gwyddom fod cwmnïau ynni'n eistedd ar werth biliynau o bunnoedd o elw.

“Ni allwn aros mwyach i San Steffan wneud y peth iawn dros  Gymru – mae angen y pwerau arnom i drethu a rheoleiddio’r sector ynni, yma yng Nghymru. Mae hyn yn dechrau gyda gosod treth ffawdelw un tro ar gwmnïau ynni. Os nad ydyn nhw eisiau ei wneud drosom  ni, yna rhowch y pwerau i ni fel y gallwn ni ei wneud ein hunain!

“Rydym eisoes wedi sôn am y dewis oedd gan lawer o deuluoedd rhwng bwyta a gwresogi’r tŷ dros y gaeaf. Mae’n fy nychryn i y gallai teuluoedd fod mewn sefyllfa waeth, lle na allant fforddio gwresogi eu bwyd mwyach, tra bod cwmnïau ynnin eistedd ar elw yn y biliynau. Rhaid symud y cydbwysedd, a rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn eu gallu i fynd i'r afael â hyn.”