Wrth ymateb i adroddiad ar dwristiaeth yng Nghymru, mae Plaid yn galw ar Lywodraethau Cymru a San Steffan i ‘gael y pethau sylfaenol yn iawn’

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan sy’n dweud bod Cymru’n cael llai na’i chyfran o dwristiaid oherwydd diffyg buddsoddiad gan Lywodraethau Cymru a’r DU.

 

Amlinellodd yr adroddiad, ‘Wales as a global tourist destination’, mai dim ond miliwn o dwristiaid rhyngwladol a ymwelodd â Chymru yn 2019 o’r 41 miliwn a ymwelodd â’r DU, ac mai dim ond 2% o’r cyfanswm a wariwyd gan dwristiaid rhyngwladol i’r DU a wariwyd yng Nghymru.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu bod diffyg proffil i Gymru yn rhyngwladol, a bod 57% o ymwelwyr tramor heb weld unrhyw hysbysebu am Gymru o flaen llaw. Roedd hefyd yn amlinellu rhwystrau amrywiol eraill, gan gynnwys diffyg dealltwriaeth ac arbenigedd gan VisitBritain o sut i hyrwyddo Cymru yn ei deunyddiau marchnata, ‘diffyg Brand Cymreig’ ar yr un lefel â chenhedloedd eraill y DU, a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus integredig.

 

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Luke Fletcher AS, llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi:

 

“Yng Nghymru, rydyn ni i gyd yn gwybod beth yw’r ‘Brand Cymreig’. Mae’n cynnwys amrywiaeth unigryw o fusnesau bach, golygfeydd trawiadol, a chroeso cynnes. Mae’n gyfuniad o hanes cyfoethog, ddiwylliant unigryw ac iaith ein hunain. Mae gennym atyniadau o’r radd flaenaf a phob rheswm i Gymru fod yn lleoliad delfrydol i ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

 

“Fodd bynnag, nid yw Llywodraethau Cymru na’r DU wedi creu presenoldeb i Gymru ar lwyfan y byd. Mae’n dweud rhywbeth pan mae dau actor Hollywood wedi gwneud llawer mwy i gyflwyno’r byd i Gymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf na Llywodraethau Cymru a San Steffan dros nifer fawr o flynyddoedd.

 

“Mae gennym gyfle yng Nghymru i adeiladu sector twristiaeth gynaliadwy, gan osgoi ffurfiau echdynnol o dwristiaeth. Mae cyfle hefyd i wella perchnogaeth gymunedol ar dwristiaeth leol, i adeiladu eu hatyniadau a’u llety eu hunain sydd o fudd i’r gymuned leol.

 

“Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gwneud cam â Cymru drwy beidio â chael y pethau sylfaenol yn iawn. Mae diffyg buddsoddiad yn ein trafnidiaeth a’n seilwaith wedi gadael ein gwlad gyda chysylltiadau trafnidiaeth sy’n mynd â chi mas o’r wlad er mwyn cyrraedd rhywle sydd fel arall yn tafliad carreg i ffwrdd. Nid yw gwasanaethau bysiau yn ddigonol, ac mae diffyg buddsoddiad wedi bod mewn ffyrdd. Mae system drafnidiaeth gyhoeddus hawdd ei defnyddio yn rhan hanfodol o apelio at dwristiaid.

 

“Mae llawer o waith i’w wneud i ddenu ymwelwyr rhyngwladol i Gymru, gan gynnwys mynd i’r afael â diffyg buddsoddiad hir sefydlog Llywodraeth y DU yng Nghymru o ran seilwaith. Pe bai gennym ein cyfran deg o gyllid rheilffyrdd, er enghraifft, byddai gennym £6biliwn i’w roi tuag at gysylltu Cymru o’r gogledd i’r de, gan gysylltu cymunedau a hwyluso cynlluniau i deithiau ledled Cymru.”