Blwyddyn arall o Blaid Cymru ar dy ochr

Wrth i 2022 ddirwyn i ben, mae Plaid Cymru’n edrych yn ôl ar uchafbwyntiau blwyddyn brysur arall, lle bûm yn sefyll dros bobl Cymru, achos mae Plaid Cymru ar eich hochr chi. Byddwn yn gwneud yr hyn sy’n iawn gan ein cymunedau – yn brwydro drostynt, yn rhannu eich gofidion, ac yn hyrwyddo chwarae  teg fel rhan o ganlyniad i ein gwerthoedd dwfn.

Rydym wedi gweld rhai newidiadau mawr i’n bywydau, ac mae uchafbwyntiau 2022 yn mynd llaw yn llaw gydag isafbwyntiau.  Yn yr un flwyddyn ag y llwyddodd ein ymgyrch hir i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd, cofnodwyd y lefel uchaf o dlodi plant yn y DU yng Nghymru.

Dyma rai o’r ffyrdd rydym wedi gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau:

Dod o hyd i dir cyffredin er lles pawb

Gyda blwyddyn ers i ni arwyddo’n Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, mae dyfodol gobeithiol ar gyfer yr holl uchelgeisiau. Byddwn ni’n parhau â’r diddordebau a nodwn, sy’n cynnwys: bwydo ein plant, gofalu am ein henoed, a newid bywyd er gwell i filoedd o bobl hyd a lled ein gwlad.

Cynghorau o dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo at Sero Net erbyn 2030

Mae pob awdurdod lleol sy’n cael ei arwain gan Blaid Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, gyda Chyngor Sir Gâr y cyntaf i wneud hynny. Mae pob un wedi ymrwymo at gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2030 .

Bwydo plant llwglyd

Drwy’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, rydym wedi ennill ein hymgyrch hir er mwyn darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ledled Cymru. Mae Plaid Cymru wedi sicrhau bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi gweithredu’r polisi gan sicrhau darpariaeth o safon uchel tra’n defnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny’n bosibl. Mae darparu prydau ysgol am ddim yn gam enfawr tuag at drechu tlodi yng Nghymru.

Atebion ymarferol i’r argyfwng costau byw

Drwy cyhoeddi ein cynllun radical, ‘Cynllun Pobl’, rydym wedi darparu datrysiadau ymarferol a manwl sy’n ymateb i’r argyfwng presennol, gan alw ar Lywodraeth Cymru i rewi rhent, gwahardd troi allan a sicrhau mwy o drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy.  Rydym hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i ostwng prisiau ynni. Rhaid gwarchod aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas rhag effeithiau’r argyfwng costau byw.

Gofal plant am ddim i bob plentyn 2 oed

O ganlyniad i’n dylanwad, mae gofal plant am ddim i bob plentyn dyflwydd oed yn rhan o’n Cytundeb Cydweithredu â Llywodraeth Cymru. Mae cynghorwyr ac awdurdodau lleol Plaid Cymru yn parhau i fod â rôl ganolog yn natblygiad y gwasanaethau gofal plant hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddarparu’r gwasanaeth hwn i deuluoedd ledled Cymru.

Plaid Cymru yn arwain cynghorau yn croesawu ffoaduriaid

Mae awdurdodau lleol Plaid Cymru yn parhau i adeiladu ar eu record falch o groesawu ffoaduriaid. Mae Plaid Cymru wedi dadlau y dylai pobl fod â hawl i loches o ganlyniad i’w gwerth cynhenid fel bodau dynol yn hytrach na’u gwerth economaidd yn unig. Dylai Cymru fod yn hafan ddiogel i’r rheiny sydd ei hangen.

Gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16-25 oed

Mae’r Cytundeb Cydweithio wedi bod yn ganolog i gyflawni datblygiad pellach y Gymraeg yng Nghymru, drwy ymrwymo at wersi Cymraeg am ddim i bawb rhwng 16 a 25 oed a thyfu’r nifer o ymarferwyr addysgiadol. Dylai pawb yng Nghymru gael yr hawl i wersi Cymraeg ac mae hwn yn gam mawr ymlaen i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Gweithredu uniongyrchol i fynd i’r afael ag argyfwng tai

Drwy’r Cytundeb Cydweithio, caiff pecyn o fesurau eu cyflwyno i fynd i’r afael ag anghyfiawnderau y farchnad dai drwy ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthiant i fynd i’r afael â mater ail gartrefi a thai anfforddiadwy.

Cefnogi pob gweithiwr sy’n brwydro am gyflog teg

Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod gyda phob gweithiwr sy’n brwydro am gyflogau teg ac amodau gwaith diogel. Mae Plaid Cymru wedi galw tro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael iddynt i wella cyflog i nyrsys, ac i wneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn pobl gyffredin sy’n gweithio’n galed rhag talu pris anrhefn San Steffan wrth ddelio â’r economi.  Mae diogelu cyflogau’r sector cyhoeddus yn golygu amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus. Rydyn ni i gyd yn dioddef os yw gweithwyr yn ein gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio.

Setliad teg i S4C

Ar ben-blwydd S4C yn 40 oed, anogodd Plaid Cymru Michelle Donelan AS i ‘ymrwymo i ddarparu adnoddau pellach i S4C’. Mae S4C wedi bod yn ganolog i hyrwyddo’r Gymraeg, mae’n blatfform byd-eang i’n hiaith ac mae Plaid Cymru yn parhau i sicrhau ei dyfodol.

Ymgyrch yn erbyn celwyddau mewn gwleidyddiaeth

Ar y 28ain o Hydref, tynnodd Liz Saville Roberts AS sylw at y broblem cynyddol o ddweud celwydd mewn gwleidyddiaeth drwy ei mesur oedd yn cynnig ei wahardd. Gyda Rishi Sunak yn addo adfer ‘uniondeb ac atebolrwydd’ i rôl y Prif Weinidog, mae’n wir i ddweud bod angen deddfwriaeth o’r fath

Gwladoli egni

Rydym wedi gosod allan ein gweledigaeth ar gyfer cwmni ynni o dan berchnogaeth y cyhoedd, sef Ynni Cymru. Diolch i’n Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru yn credu y bydd Ynni Cymru yn helpu Cymru i wireddu ei photensial fel cenedl gyfoethog o ran ei hadnoddai ynni ac mewn ffordd a fydd o fudd i bobl Cymru, nid allforwyr rhyngwladol.

 

2023...

Hyd yn oed gyda’r uchafbwynt eleni mae dal mwy sydd angen ei wneud, ond mae Cymru dim ond ar ei hennill pan mai Plaid Cymru yn chwaraewr ar y cae.

Tra bod San Steffan yn gorfodi mwy o galedi, bydd Plaid Cymru yn edrych ymlaen – gyda’n gilydd, i adeiladu Cymru i bawb – un sy’n gyfiawn, ffyniannus, teg, ac yn rhydd o anhrefn San Steffan.

Ond er gwaetha’r heriau, yng ngeiriau Dafydd Iwan: Ry’n ni yma o hyd.