‘Bydd y Gyllideb hon unwaith eto’n profi, pan mai San Steffan sy’n gwneud y cyfri, bydd Cymru wastad ar ei cholled’ - Plaid Cymru
Plaid Cymru’n annog y Canghellor i fynd i'r afael â’r annhegwch tuag at Gymru yn y Gyllideb
Cyn Cyllideb yr Hydref ar 26 Tachwedd, mae Plaid Cymru wedi galw ar y Canghellor i ddarparu cyllideb sy'n gweithio i Gymru.
Dywedodd Llefarydd y blaid ar y Trysorlys, Ben Lake AS, bod Cymru yn "colli allan ar biliynau o ganlyniad i benderfyniadau gwariant annheb" gan y Lywodraeth Lafur hon.
Mae hyn yn cynnwys y fordd mae symiau canlyniadol Barnett o brosiectau rheilffordd fel HS2 a llinell Rhydychen-Caergrawnt yn parhau i gael eu gwrthod, y trethi niweidiol ar fusnesau teuluol a ffermydd, yn ogystal â’r diffyg ariannol yn sector cyhoeddus Cymru yn sgil y cynnydd mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr.
Er i Mr Lake ddweud bod pobl Cymru yn “cario’r baich” am bolisiau niweidiol Llafur, mae’n annhebygol y bydd Rachel Reeves yn newid y pethau hanfodol yma wythnos nesaf.
Cyn y Gyllideb, mae Plaid Cymru wedi galw am:
- Ailddiffinio HS2 a rheilffordd Rhydychen-Caergrawnt fel prosiectau i Loegr yn unig i sicrhau bod Cymru yn derbyn y biliynau sy'n ddyledus iddi mewn symiau canlyniadol Barnett;
- Datgloi pwerau benthyca Cymru i fynd i'r afael â thanfuddsoddi hanesyddol;
- Atal trethi niweidiol Llafur ar waith a chyflwyno treth ar gyfoeth eithafol;
- Torri cost ynni a rhoi rheolaeth i Gymru dros Ystâd y Goron.
Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysolrys, Ben Lake AS:
“Unwaith eto, mae’n edrych yn debyg na fydd y Gyllideb hon yn llwyddo i gyflawni’r hyn sydd ei angen ar Gymru na’r hyn rydyn ni’n ei haeddu, oherwydd pan mai San Steffan sy'n gwneud y cyfri, mae Cymru wastad ar ei cholled.
“Dydy’r un tro pedol ar ol y llall gan Lafur ddim wedi cadarnhau unrhyw beth i'r cyhoedd o ran yr hyn mae'r blaid yn gynrychioli, os o gwbl. O gynyddu treth incwm i ddiddymu'r cap dau blentyn, dydy'r ffordd maent yn cefnu ar eu cynigion eu hunain ddim yn llenwi pobl â hyder y bydd Cyllideb dydd Mercher yn dod ag eglurder, na fod gan Lafur eu hunain ffydd yn eu strategaeth gyllidol.
“Ond nid sefydlogrwydd yn unig mae pobl ledled Cymru yn chwilio amdano. Myen nhw’n chwilio am uchelgais a fydd yn darparu newid gwirioneddol i wella eu bywydau bob dydd. Dyna beth mae cynigion Plaid Cymru i’r Canghellor yn ei gynnig, a dyna pam y dylai hi eu cymryd o ddifrif cyn y Gyllideb ddydd Mercher.
“Mae Cymru wedi colli allan ar biliynau o ganlyniad i benderfyniadau gwariant annheg y Llywodraeth Lafur hon. Yn syml, mae Plaid Cymru yn galw am degwch, ac am gyllideb fydd yn gweithio er lles Gymru. O alw am y biliynau sy'n ddyledus i Gymru o HS2 i ddatganoli Ystad y Goron, i fynnu gweithredu ar gostau byw ac ailystyried codiadau treth Llafur ar fusnesau teuluol a ffermydd.
“Mae patrwm clir yma’r ffordd caiff Cymru ei thrin yn annheg. Cawsom addewid y byddai pethau’n gwella o dan ddwy Lywodraeth Lafur bob pen yr M4, ond y gwir amdani yw ein bod ni'n gweld mwy o'r un peth, gyda phobl ledled Cymru yn gorfod cario’r baich am bolisïau niweidiol Llafur.
"Pe bai'r Canghellor wir eisiau gweithio yn ôl anghenion pobl Cymru a’u dyhead am newid go iawn, yna byddai hi'n gwrando ar gynigion Plaid Cymru ac yn rhoi'r pwerau a'r buddsoddiad sydd eu hangen ar ein cymunedau i ffynnu.”