Plaid Cymru yn amlinellu cynllun 5 pwynt i liniaru’r argyfwng
Annog y Canghellor i fabwysiadu cynigion ‘realistig, ymarferol, a theg’
Mae llefarydd Plaid Cymru ar gyfer y Trysorlys, Ben Lake AS heddiw (Sul 12 Mawrth) wedi amlinellu cynllun 5 pwynt ei blaid cyn Cyllideb dydd Mercher. Anogodd y Canghellor i fabwysiadu cynigion “realistig, ymarferol a theg” ei blaid.
Bydd Jeremy Hunt yn darparu ei gyllideb lawn gyntaf fel Canghellor ar ddydd Mercher 15 Mawrth, wrth i bobl barhau i frwydro trwy’r argyfwng costau byw.
Byddai cynllun Pum Pwynt Plaid Cymru yn blaenoriaethu cyflogau’r sector cyhoeddus; ymestyn cefnogaeth ynni a gwella effeithlonrwydd ynni; rhyddhau arian sy’n ddyledus i Gymru; lleihau tlodi trwy fuddsoddi yn y system nawdd cymdeithasol; a gwella cysylltedd digidol ac ariannu prosiectua ymchwil.
Dywedodd Mr Lake y byddai’r cynllun yn “rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl gyffredin” ac y byddai’n “rhoi gobaith go iawn” i gymunedau mewn cyd-destun economaidd anodd.
Meddai Ben Lake AS:
“Gyda 61 y cant o bobl Cymru yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio’n negyddol gan eu sefyllfa ariannol, mae’n amlwg bod yr argyfwng costau byw ymhell o fod ar ben.
"Wrth i bobl wynebu mwy o galedi, rhaid i’r Canghellor roi’r brif flaenoriaeth i roi mwy o arian ym mhocedi pobl gyffredin. Dyna pam fy mod yn annog y Canghellor i fabwysiadu Cynllun Pum Pwynt realistig, ymarferol a theg Plaid Cymru. , a gwella ansawdd ein stoc dai hynafol yn fawr.
“Does dim esgus dros beidio â chodi cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus i sicrhau eu bod nhw o leiaf yn unol â chwyddiant. Heb ein gweithwyr yn y sector cyhoeddus, mae ein gwead cymdeithasol yn chwalu.
“Yng Nghymru, mae pedwar o bob deg o bobl yn mynd heb wresogi eu cartrefi, ac y mae biliau ynni yn mynd i godi eto fyth. ‘Dyw hynny ddim yn dderbyniol; dylai’r Cnaghellor ddefnyddio yr arian dros ben o’i gyllideb Ionawr i ymestyn cefnogaeth yn ogystal a dwyn ymlaen y £6bn a neilltuwyd i effeithlonrwydd ynni yn helpu i dorri biliau ynni yn barhaol,
“Rhaid i’r Canghellor hefyd ryddhau y £1bn sy’n ddyledus i Gymru o’r arian a wariwyd ar brosiect HS2 yn Lloegr. Mae Cymru’n haeddu ein cyfran deg o arian yng nghyswllt prosiect HS2 yn ei gyfanrwydd, a allai arwain at £5bn trawsnewidiol dros einioes y prosiect.
“Mae gwerth budd-daliadau wedi disgyn yn o achos chywddiant. Rhaid i ni ddechrau edrych ar y system les nid fel baich ond fel erfyn i godi pobl allan o dlodi, ac adnabod fod tlodi yn costio biliynau i wasanaethau cyhoeddus.
“Yn olaf, rhaid i gysylltedd digidol fod yn flaenoriaeth i’r Canghellor. Mae cysylltedd gigadid yng Nghymru yn drychinebus, sy’n atal busnesau a gweithwyr rhag gweithio’n effeithiol o rannau helaeth o Gymru. Byddai rhyddhau’r £5bn a neilltuwyd i Brosiect Gigadid yn llawn yn helpu i ddatgloi’r potensial enfawr i Gymru.
“Gall datganiad gwanwyn ynghyd â rhagolygon yr OBR deimlo fel bod San Steffan yn ôl yn gweithredu fel arfer, ond mae biliau ynni uchel, prisiau bwyd sy’n codi beunydd, a gwasanaethau cyhoeddus sy’n chwalu yn golygu na fydd busnes-fel-y-mae yn gwneud y tro. Rhaid i’r Canghellor ddefnyddio’r cyfle ar ddydd Mercher i roi gwir obaith i gymunedau ledled Cymru.”
-------------------------------------------------------------------
Cynllun Pum Pwynt Plaid Cymru
1. Cyflog teg i weithwyr
Dylid cynyddu cyflogau’r sector cyhoeddus o leiaf yn unol â chwyddiant flwyddyn nesaf. Byddai cynyddu cyflogau’r sector cyhoeddus yn Lloegr yn rhyddhau arian i Lywodraeth Cymru trwy fformiwla Barnett.
2. Ymestyn cefnogaeth ynni
Dylid ymestyn cefnogaeth trwy’r cynllun Cefnogi Biliau Ynni, ac i fusnesau drwy ailystyried paramedrau y cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni. Dylid gwarantu rownd ychwanegol o’r Taliad Tanwydd Amgen ar gyfer tai oddi ar y grid a busnesau ar gyfer y gaeaf nesaf . Rhaid dwyn ymlaen y £6bn a ymrwymwyd i effeithlonrwydd ynni yn Natganiad yr Hydref er mwyn torri biliau ynni yn barhaol.
3. Rhyddhau arian HS2
Dylid rhyddhau £1bn i Gymru ar unwaith trwy ddynodi HS2 yn gywir fel prosiect ‘Loegr yn unig’. Dywed datganiad yr Adran Drafnidiaeth ar HS2 fod £20bn eisoes wedi ei wario ar gyflwyno Cam Un. Byddai ffactor cymaroldeb teg 100% ar lefel rhaglen HS2 wedi golygu y byddai £1bn eisoes wedi ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru trwy fformiwla Barnett. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amcangyfrif y buasai Llywodraeth Cymru yn derbyn £5bn mewn arian dilynol Barnett dros einioes y prosiect os defnyddir ffactor cymaroldeb 100% ar lefel-rhaglen HS2.
4. Uwchraddio a rhoi trefn ar fudd-daliadau
Dylai hyn gychwyn trwy osod isafswm lefel o werth budd-daliadau a chyflwyno mecanwaith uwchraddio mwy ymatebol i sicrhau eu bod yn cadw i fyny â chostau cynyddol. Dylir dadrewi Lwfans Tai Lleol a’i uwchraddio i’r 30fed canradd o renti’r farchnad er mwyn i ni allu dechrau mynd i’r afael â’r ffaith nad yw pobl ar incwm isel yn gallu rhentu tai yng Nghymru.
5. Rhoi hwb i gysylltedd digidol
Dylid rhyddhau’r £5bn a neilltuwyd i Brosiect Gigadig, fydd yn helpu i ddatgloi’r potensial economaidd enfawr i Gymru. Yng Nghymru, mae cysylltedd gigadig yn 50%, o gymharu â’r cyfartaledd y DG o 68%. Yn rhannu gwledig Cymru, mae’r lefel yma yn is o lawer, gyda dim ond 27% o Geredigion yn dod dano. Dylai Llywodraeth y DG hefyd roi’r £71m sydd ei angen ar brifysgolion Cymru i bontio’r bwlch 12-mis rhwng diwedd arian Ewropeaidd a chychwyn y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Ym mis Ebrill, bydd 60 o brosiectau ymchwil ledled Cymru, a’r 1000 o swyddi sgiliau-uchel a gefnogir ganddynt, mewn perygl oni bai fod Llywodraeth y DG yn darparu cefnogaeth.