Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU osod embargo eang ar fasnach a buddsoddi a thorri’r holl gysylltiadau ariannol â Rwsia ar ôl iddi ymosod ar yr Wcrain, meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Galwodd Mr Price ymosodiad Rwsia ar yr Wcrain yn “erchyll ac anghyfreithlon” ac ychwanegodd y dylai Llywodraeth y DU rwystro cwmnïau o Rwseg rhag elwa o restru ar gyfnewidfa stoc Llundain – gyda chwmnïau fel BP a Shell yn cael eu gorfodi i ddargyfeirio o Rwsia.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru nad oedd y bygythiad o sancsiynau “yn amlwg” wedi gweithio.

Ychwanegodd Mr Price fod Cymru’n sefyll mewn undod â’r Wcráin a bod gan y genedl “ddyletswydd” i groesawu a chynnig cefnogaeth i bobl yn yr Wcrain sy’n ffoi o’r gwrthdaro.

Bu Arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn ymweld ag Wcráin dros y penwythnos fel rhan o ddirprwyaeth oedd yn cynnwys Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru Mick Antoniw.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:

“Mae ymosodiadau Putin ar yr Wcráin dros nos yn erchyll ac yn anghyfreithlon. Drwy siarad yn uniongyrchol â theuluoedd, sefydliadau ac undebau llafur yn ystod fy ymweliad â Kyiv, roedd hi'n amlwg bod pobl Wcráin yn bobl hynod wydn. Byddant yn ymladd i amddiffyn annibyniaeth eu cenedl.

“Mae’n amlwg nad yw’r bygythiad o sancsiynau wedi gweithio, ac mae methiant llywodraeth Geidwadol San Steffan i gael gwared o'r arian Rwsiaidd sy’n swatio yn Llundain wedi atgyfnerthu Putin. Rhaid cael embargo llwyr ar fasnach a buddsoddiad a hollti cysylltiadau ariannol er mwyn cyfyngu ar allu milwrol Putin a gosod baich annioddefol ar Rwsia.

“Rhaid rhwystro cwmnïau Rwsiaidd rhag elwa o restru ar gyfnewidfa stoc Llundain a rhaid i gwmnïau fel BP a Shell gael eu gorfodi i wyro o Rwsia.

“Mae Cymru’n sefyll mewn undod â’r Wcráin a’i phobl. Fel cenedl noddfa, mae’n ddyletswydd arnom i fod yn barod i groesawu a chynnig cymorth i bobl i ffoi o'r Wcráin ar yr adeg erchyll hon.”