"Rhaid i ni ddefnyddio'r holl offer sydd ar gael i ni i gadw plant yn ddiogel" – Sian Gwenllian

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i gadw plant yn ddiogel mewn ysgolion, gan gynnwys awyru yn arbennig.

Argymhellodd canllawiau SAGE Annibynnol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, y dylid defnyddio awyru ar unwaith mewn ysgolion, a galwodd adroddiad ar wahân am gronfa cymorth awyru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Addysg, Sian Gwenllian AS y dylai Llywodraeth Cymru" wneud defnydd o gyfnod gwyliau'r haf" i roi cynlluniau ar waith ar gyfer mwy o awyru mewn ysgolion.

Ychwanegodd Ms Gwenllian fod rhaid i'r llywodraeth ddefnyddio'r holl offer sydd ar gael i "gadw plant yn ddiogel" ac atal lledaeniad covid ymhlith poblogaeth Cymru sydd heb frechiad.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Addysg, Sian Gwenllian AS,

"Mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio cyfnod gwyliau'r haf i roi cynlluniau ar waith ar gyfer awyru mewn ysgolion, gan gynnwys cronfa cymorth awyru, fel yr argymhellwyd gan SAGE Annibynnol.

"Mae corff cynyddol o dystiolaeth wyddonol yn awgrymu'r rôl enfawr y mae awyru yn ei chwarae o ran lleihau lledaeniad firysau a gludir trwy’r awyr fel covid-19; awyru mannau dan do yw un o'n dulliau allweddol ar gyfer ymladd covid.

"Rydyn ni'n gwybod fod bod yn yr awyr agored yn lleihau'r risg yn sylweddol, felly pam mae'r llywodraeth yn petruso rhag defnyddio awyru i leihau trosglwyddo mewn ysgolion? Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r holl offer sydd ar gael i ni i gadw plant yn ddiogel ac atal covid rhag lledaenu ymhlith ein poblogaeth sydd heb eu brechu."