Dylai cyn-filwyr gael eu heithrio o asesiadau anabledd fel rhan o ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU – Plaid Cymru
Mae ASau i fod i bleidleisio ar ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU ddydd Mawrth nesaf
Yn ystod PMQs heddiw (Dydd Mercher 25 Mehefin) fe wnaeth Ben Lake AS annog Llywodraeth y DU i ymrwymo i sicrhau bod cyn-filwyr ag anafiadau sy'n gysylltiedig â’u gwasanaeth yn cael eu heithrio'n awtomatig rhag asesiadau anabledd parhaus.
Esboniodd yr AS dros Geredigion Preseli bod cyn-filwyr sydd wedi colli eu breichiau a’u coesau a sy’n parhau i fyw gyda’r trawma o ryfel, yn wynebu asesiadau anabledd ailadroddus dim ond er mwyn profi eu hanableddau.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu cynllun i dynhau'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer PIP o fis Tachwedd 2026, a allai arwain at daliadau is i lawer, gan gynnwys cyn-filwyr sy'n byw ag anableddau sy'n gysylltiedig â’u gwasanaeth.
Mae ASau i fod i bleidleisio ar ddiwygiadau fydd yn arbed £5bn y flwyddyn i'r Trysorlys ddydd Mawrth nesaf (1 Gorffennaf).
Fodd bynnag, mae’r gwrthryfela yn cynyddu yn erbyn cynlluniau Keir Starmer, gyda dros 120 o'i ASau ei hun eisoes wedi'u gwrthwynebu'n gyhoeddus.
Wrth siarad yn ystod PMQs, dywedodd yr Ben Lake AS:
“Hoffwn ymuno â’r Dirprwy Brif Weinidog i ddiolch i aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog am eu gwasanaeth. Rwyf wedi cael y fraint yn ystod y misoedd diwethaf o gwrdd â llawer o gyn-filwyr yn fy etholaeth fy hun, ac mae rhai ohonynt yn dal i gario trawma rhyfel. Mae rhai, gan gynnwys pobl sydd wedi colli eu coesau a’u breichiau, wedi dweud wrthyf eu bod, yn rhy aml, yn gorfod gwneud asesiadau anabledd ailadroddus er mwyn cael cymorth ariannol.
“Felly, a yw’r Dirprwy Brif Weinidog yn cytuno â mi y dylai cyn-filwyr ag anafiadau sy’n newid bywydau ac sy’n gysylltiedig â’u gwasanaeth gael eu heithrio rhag asesiadau anabledd ailadroddus yn y dyfodol?”
Dywedodd Angela Rayner AS, y Dirprwy Brif Weinidog, a gamodd i mewn yn lle y Prif Weinidog heddiw:
“Mr Llefarydd, unwaith eto, fel rhan o’r diwygiadau yr ydym am eu gwneud, rydym am sicrhau bod y rhai sydd methu gweithio yn cael eu cefnogi’n iawn ac nad ydynt yn cael eu rhoi trwy’r asesiadau diddiwedd hyn, ac rwy’n diolch i’r Aelod Gwir Anrhydeddus am godi’r achos.
“Rydym wedi ymrwymo i adnewyddu cytundeb y genedl gyda’r rhai sydd wedi gwasanaethu, gydag ystod o gefnogaeth ar waith i gyn-filwyr, gan gynnwys gofal iechyd meddygol a chorfforol pwrpasol, llwybrau yn y GIG ac mewn cyflogaeth ac mewn tai. Bydd y system gymorth newydd VALOUR, a gefnogir gan £50m o gyllid, yn darparu rhwydwaith o ganolfannau cymorth i gysylltu cyn-filwyr â gwasanaethau lleol a chenedlaethol.”
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’n annheg gorfodi pobl i gael ailasesiadau ar gyfer cyflyrau parhaol ac anableddau er mwyn cael mynediad at gymorth ariannol, ac mae’n greulon gofyn i bobl sydd wedi colli coesau neu breichiau, neu’r rhai sy’n byw ag anafiadau sy’n newid bywyd, brofi eu hanabledd dro ar ôl tro.
“Dylai Llywodraeth y DU edrych i fynd i’r afael â’r anghyfiawnder hwn ar frys, ond yn lle hynny mae eu diwygiadau lles arfaethedig yn bygwth creu rhwystrau pellach i’r rhai ag anableddau. Yng Nghymru, lle mae 32% o bobl anabl eisoes yn byw mewn tlodi, byddai newidiadau y Llywodraeth ond yn gwaethygu’r anghyfiawnder hwn.
“Rhaid i Lywodraeth y DU fanteisio ar y cyfle hwn i fynd i’r afael ag anghyfiawnderau’r system les bresennol yn lle ei gwneud hi hyd yn oed yn anoddach i’r rhai ag anableddau gael mynediad at y gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddi.”