Mae Ann Davies yn dweud mai dim ond Plaid Cymru fydd yn sicrhau bod llais cefn gwlad Cymru yn cael ei glywed

Bydd pleidlais i Blaid Cymru ar 4 Gorffennaf yn rhoi llais i ffermwyr Cymru yn San Steffan, meddai Plaid Cymru.

 

Mae Ann Davies, ymgeisydd Plaid Cymru dros Gaerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol, wedi dweud mai dim ond Plaid Cymru sydd â hanes o sefyll i fyny i Lafur a'r Ceidwadwyr i roi buddiannau cymunedau gwledig wrth wraidd llunio polisïau yng Nghymru ac yn San Steffan.

 

Roedd Ms Davies yn siarad wrth iddi barhau i ymweld â ffermydd ar draws Sir Gaerfyrddin yn yr etholaeth newydd.

 

Dywedodd Ymgeisydd Plaid Cymru, Ann Davies:

 

"Bydd Plaid Cymru yn rhoi llais i ffermwyr Cymru yn San Steffan.

 

"Rydym yn falch o fod ar ochr ffermio yng Nghymru yn wyneb yr heriau difrifol mae'r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

 

"Dywedodd y Ceidwadwyr na fyddai Cymru'n cael ceiniog yn llai ar ôl Brexit, ond mae cymunedau gwledig o leiaf £243 miliwn yn waeth eu byd. Mae cytundebau masnach ôl-Brexit wedi caniatáu mwy o fewnforion rhad i danseilio ein marchnadoedd domestig. Mae Bargen Masnach Rydd Seland Newydd yn bygwth ffermio a diogelwch bwyd Cymru.

 

"Mae Plaid Cymru yn credu y dylai ffermwyr gael ‘veto’ i atal cytundebau masnach trychinebus pellach.

 

"Ni fydd cymunedau gwledig yn cael eu gwasanaethu'n well gan Lywodraeth Lafur chwaith - heb unrhyw ymrwymiad i roi'r cyllid sy'n ddyledus i Gymru ac i roi'r pwerau dros wario arian newydd yr UE yn ôl i ddwylo cymunedau Cymru.

 

"Os caf fy ethol yn AS, byddaf yn falch o sefyll yn y Senedd bob dydd dros Gymru Wledig. Mae angen i ni ethol grŵp cryf o ASau Plaid Cymru ar 4 Gorffennaf i godi llais dros y Gymru wledig yn San Steffan i sicrhau bod lleisiau ffermwyr Cymru yn cael eu clywed."