Y cynnig i gynhadledd Plaid Cymru yn pasio gyda mwyafrif llethol o blaid

Mae aelodau Plaid Cymru wedi pleidleisio O BLAID cefnogi’r Cytundeb Cydweithio gyda 94% o blaid.

Roedd aelodau Plaid Cymru wedi cael cyfle i bleidleisio ar y cytundeb heddiw (dydd Sadwrn 27 Tachwedd 2021) yn ystod sesiwn arbennig o gynhadledd flynyddol rithwir y blaid.

Fe alwodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y penderfyniad yn “gam enfawr ymlaen” i Gymru a’i ddemocratiaeth.

Cyhoeddodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price a’r Prif Weinidog Mark Drakeford y Cytundeb Cydweithio yn ffurfiol ddydd Llun ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan bwyllgorau gweithredol Plaid Cymru a Llafur yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, roedd yn ofynnol i aelodau Plaid Cymru bleidleisio ar y Cytuneb cyn y gallai gael ei weithredu.

Ar ôl cael ei gadarnhau gan aelodau Plaid Cymru, bydd y Cytundeb Cydweithredu yn dod i rym ar ôl iddo gael ei arwyddo gan y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru.

Mae'r cytundeb yn rhaglen bolisi ar y cyd sy'n cynnwys 46 maes, yn amrywio o ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd; ymrwymiad i weithredu ar unwaith a radical i fynd i'r afael ag argyfwng yr ail gartrefi, i ddiwygio'r Senedd yn y tymor hir.

Bydd y ddau bartner - Llywodraeth Cymru a Grŵp Senedd Plaid Cymru - yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu a goruchwylio cyflwyno'r polisïau a gwmpesir gan y cytundeb dros y tair blynedd nesaf.

Wrth siarad ar ôl y bleidlais dywedodd Arweinydd y Blaid Cymru, Adam Price AS,

“Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i Gymru a’n democratiaeth. Bydd y Cytundeb Cydweithredu yn dod â budd uniongyrchol a hirdymor i bobl Cymru. 

“Bydd pob plentyn ysgol gynradd nawr yn derbyn prydau ysgol am ddim; bydd gofal plant am ddim i blant dwy oed; a gweithredu radical i fynd i'r afael â'r argyfwng tai. 

“Bydd taliadau cynaliadwy i gefnogi ffermydd teulu; llwybr i sero net erbyn 2035 gyda Ynni Cymru - cwmni cymunedol i ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy; a Senedd newydd a diwygiedig - yn fwy ac yn fwy amrywiol, ac yn gytbwys o ran rhywedd yn ol y gyfraith.

“O fwydo ein plant i ofalu am ein henoed, mae hon yn Rhaglen Llywodraeth sy'n adeiladu cenedl a fydd yn newid bywydau miloedd o bobl ar hyd a lled ein gwlad er gwell ac yn gosod ein cenedl ar gam nesaf ein taith gyfansoddiadol genedlaethol.

“Ac ni fyddai dim ohono’n digwydd heb Plaid Cymru.

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,

“Bron i chwarter canrif yn ôl, pleidleisiodd pobl yng Nghymru dros hunan-lywodraeth i Gymru, gydag addewid o fath newydd o wleidyddiaeth. Fe wnaethant roi eu hymddiriedaeth mewn democratiaeth newydd gyda chyfarwyddyd i weithio'n wahanol - yn gynhwysol ac yn gydweithredol.

“Yn wyneb y pandemig a llywodraeth Geidwadol elyniaethus yn San Steffan - llywodraeth sy’n benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i danseilio ein sefydliadau cenedlaethol  - mae er budd ein cenedl i’r ddwy blaid weithio gyda’i gilydd dros Gymru.

“Rwy’n falch felly bod y Cytundeb Cydweithredu arloesol hwn wedi cael sel bendith aelodau Plaid Cymru ac rwy’n edrych ymlaen nawr i ddechrau’r gwaith dros wneud gwahaniaeth hirhoedlog i fywydau pobl Cymru.