Pleidleisio - gwybodaeth defnyddiol
Cynnwys
Pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio
- Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm, dydd Iau, 4 Gorffennaf 2024
- Nid oes angen eich cerdyn pleidleisio arnoch i bleidleisio
- Rhaid i chi bleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio benodol
- Os ydych wedi cofrestru ond heb dderbyn cerdyn pleidleisio, gallwch fynd i'r orsaf bleidleisio a rhoi eich enw a'ch cyfeiriad iddynt
- Rhaid i chi fynd â ID efo llun i bleidleisio - mae rhestr o'r rhai derbyniol isod
Os nad ydych wedi derbyn eich cerdyn pleidleisio eto, cysylltwch â swyddfa etholiadau eich cyngor sir.
[i'r brig]
ID efo llun
Byddwch angen un math o ID efo llun efo chi i bleidleisio. Mae rhestr isod o rai o'r rhai derbyniol - am restr lawn a mwy o fanylion ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.
Noder ni fydd ID Myfyriwr na Cherdyn Rheilffordd Person Ifanc yn cael eu derbyn.
Derbyniol:
- Pasbort
- Trwydded yrru
- Bathodyn Glas
- Cerdyn teithio 60+
- Cerdyn teithio pobl anabl
- Cerdyn PASS
- Dogfen mewnfudo fiometrig
- Cerdyn Adnabod Amddiffyn
- Cerdyn adnabod cenedlaethol gan wladwriaeth AEE
- Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
- Dogfen Etholwr Dienw
[i'r brig]
Pleidlais bost
6 cham i bleidleisio dros Blaid Cymru drwy'r post:
-
Gwirio bod y canlynol yn y pecyn pleidleisio:
- cyfarwyddiadau ar sut i fwrw'ch pleidleisiau a sut i'w dychwelyd
- datganiad pleidlais bost
- dwy amlen
- papur pleidleisio
- Cwblhau'r datganiad yn ofalus gan ddilyn y cyfarwyddyd. Heb eich llofnod a'ch dyddiad geni ar y datganiad ni fydd eich pleidlais yn cyfri.
- Pleidleisio - rhoi [X] yn y blwch nesaf i'r ymgeisydd Plaid Cymru - The Party of Wales
- Rhoi'r papur pleidleisio yn amlen A - yr amlen leiaf o'r ddwy
- Rhoi'r datganiad pleidlais bost ac amlen A i fewn yn Amlen B - y fwyaf o'r ddwy - a'i selio. Gwnewch yn siŵr fod y cyfeiriad dychwelyd yn glir.
-
Dychwelyd yr amlen pleidlais bost erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad. Gallwch:
- ei phostio, gan sicrhau bod digon o amser i'w ddanfon
- ei rhoi i'ch gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
Os nad ydych wedi derbyn eich pleidlais bost eto, cysylltwch â swyddfa etholiadau eich cyngor sir.
Gadewch i ni wybod eich bod wedi pleidleisio drwy'r post.
[i'r brig]
Methu pleidleisio oherwydd argyfwng - pleidlais drwy ddirprwy
Mewn rhai achosion o argyfwng - ee os ydych yn sâl, i ffwrdd efo gwaith, neu bod eich ID llun wedi ei golli neu ddifrodi - gallwch wneud cais i rywun fynd i bleidleisio ar eich rhan.
Yr enw am hyn yw "Pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng" - dilynwch y ddolen i wefan y Comisiwn Etholiadol am fwy o fanylion a sut i wneud cais.
[i'r brig]