Wrth nodi tair mlynedd ers ddechrau goresgyniad llawn Rwsia ar Wcráin, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ac Arweinydd y Blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts:

 “Heddiw, wrth nodi tair mlynedd ers oresgyniad annynol ac anghyfreithlon Rwsia o Wcráin, mae Plaid Cymru yn ailadrodd ein cefnogaeth ddiwyro i ddiogelwch a sofraniaeth Wcráin. Rydym yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin.

"Rydym yn bryderus iawn am benderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau i eithrio Wcráin o drafodaethau tra’n ymgysylltu’n uniongyrchol â Rwsia. Rhaid i benderfyniadau am ddyfodol Wcráin gynnwys Wcrain ei hun. Credwn hefyd ei fod yn hanfodol nad yw’r DU yn ildio i ymddygiad ymosodol parhaus Rwsia.

"Mae'r unig lwybr i heddwch cyfiawn yn cynnwys Wcráin fel partner llawn a chyfartal mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol.”