Pwysodd Liz Saville Roberts ar Lywodraeth y DU i greu system drethu decach yn lle polisïau sy'n effeithio ar Gymru'n anghymesur

Heddiw (dydd Llun 7 Gorffennaf) fe wnaeth Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, annog Llywodraeth y DU i ymrwymo i greu system drethu decach er mwyn sicrhau bod y rhai hynod gyfoethog a chorfforaethau mawr yn talu eu cyfran deg.

Fe wnaeth Ms Saville Roberts y pwynt y byddai trethu cyfoeth mawr - asedau dros £10 miliwn - yn bolisi tecach.

Gallai treth o 2% ar asedau dros £10 miliwn godi hyd at £24 biliwn y flwyddyn.

Dadleuodd hefyd y gallai'r Llywodraeth wneud mwy i fynd i'r afael â'r rhai sy'n osgoi treth, yn ogystal â rhoi terfyn ar gymorthdaliadau i gwmnïau olew a nwy mawr.

Yn ogystal â chynyddu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, mae'r Canghellor Rachel Reeves AS, wedi cyflwyno cynlluniau i wneud nifer o doriadau yn ei blwyddyn gyntaf yn y swydd, gan gynnwys i'r Taliad Tanwydd Gaeaf ac i fudd-daliadau anabledd.

Tynnodd Liz Saville Roberts sylw at sut roedd y polisïau hyn yn “effeithio’n anghymesur ar gymunedau Cymru” ond awgrymodd opsiynau eraill er mwyn codi’r arian sydd ei angen ar y Trysorlys.

 

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae cynlluniau i dorri budd-daliadau anabledd a’r penderfyniad i gynyddu yswiriant gwladol yn enghreifftiau o bolisïau sy’n effeithio ar gymunedau Cymru'n anghymesur.

“Yn hytrach na hyn, mae angen polisïau teg arnom gan gynnwys trethu cyfoeth mawr ac asedau dros £10 miliwn, dod â chymorthdaliadau’r llywodraeth i ben i gwmnïau olew a nwy mawr a mynd i'r afael â'r rhai sy'n osgoi treth.

“Felly pryd fydd tegwch yn cael ei glymu mewn i reolau cyllidol y Llywodraeth i sicrhau bod y rhai hynod gyfoethog a'r corfforaethau mawr yn talu eu cyfran deg?”

 

Yn ei ymateb, dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Darren Jones AS:

“Rwy’n credu bod yr Aelod Anrhydeddus wedi colli'r ffaith fod y Llywodraeth hon wedi newid statws treth 'non-dom' - dyma’r bobl gyfoethocaf yn ein gwlad ers blynyddoedd lawer - wedi codi TAW ar ysgolion preifat a'r ffaith ei bod yn ddrytach nawr i hedfan jet preifat nag o dan y cyn Brif Weinidog Ceidwadol ac o ganlyniad i’r penderfyniadau a gymerodd y Canghellor yn y Gyllideb y llynedd, rydym wedi rhoi’r cynnydd mwyaf mewn gwariaetn mewn termau real i Gymru ers dechrau cyfnod datganoli ac o ganlyniad i’n diwygiadau i’r Mesur ddydd Mercher, rydym wedi cynyddu cyfradd sylfaenol Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer.”