Plaid Cymru yn cyhoeddi ymateb i ymgynghoriad lles

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei hymateb i ymgynghoriad bapur Llwybrau i Waith Llywodraeth y DU, gan gondemnio diwygiadau lles arfaethedig Llafur fel “ymosodiad uniongyrchol ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed zyn ein cymdeithas” a “sarhad i’r cymunedau ôl-ddiwydiannol Cymreig y mae Llafur yn honni eu bod yn eu cynrychioli.”

Dywedodd llefarydd Gwaith a Phensiynau’r Blaid, Ann Davies AS, y byddai’r Bil Credyd Cynhwysol a Thaliad Annibyniaeth Personol arfaethedig yn achosi “caledi difrifol” i bobl anabl, yn enwedig pobl ifanc â chyflyrau iechyd meddwl, ac yn peryglu ailadrodd anghyfiawnderau gwaethaf cyfundrefnau Ceidwadol blaenorol.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r consesiynau a gyhoeddwyd ar 26 Mehefin – gan gynnwys eithriadau ar gyfer hawlwyr PIP presennol ac amddiffyniadau dros dro i rai derbynwyr UC – fel “annigonol”. Rhybuddiodd y Blaid nad yw creu system ddwy haen rhwng hawlwyr presennol a rhai yn y dyfodol yn dileu anghyfiawnder, ond yn ei ohirio ac yn ei ailddosbarthu.

Cymru, lle mae 30% o'r boblogaeth yn anabl a'r gyfradd tlodi ymhlith oedolion anabl ymhlith yr uchaf yn y DU, sydd mewn sefyllfa i ddioddef fwyaf. Eto i gyd, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod cyhoeddi asesiad effaith penodol i Gymru.

Dywedodd yr AS Ann Davies:

"Mae'r system bresennol eisoes yn methu gormod o bobl. Ond yn lle diwygio ystyrlon sy'n helpu'r sâl a'r anabl i chwarae'r rôl fwyaf gweithredol posibl yn y gymdeithas, cynllun Llywodraeth Lafur yw ei gwneud hi hyd yn oed yn anoddach i bobl anabl gael mynediad at gymorth hanfodol. Mae hwn yn ymosodiad uniongyrchol ar rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ac yn sarhad i'r cymunedau ôl-ddiwydiannol yng Nghymru y mae Llafur yn honni eu bod yn eu cynrychioli.

"Nid yw'r consesiynau a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn ddim mwy mân newidiadau i fesur sy’n sylfaenol anghywir. Nid oes unrhyw degwch wrth amddiffyn hawlwyr presennol wrth gosbi'r rhai a fydd yn anabl yn y dyfodol. Nid yw pobl yn dewis pryd i fynd yn sâl neu'n anabl, ac felly nid oes synnwyr i’r newid hwn.

“Byddai’r cynigion hyn yn achosi caledi difrifol i bobl anabl a phobl ifanc â chyflyrau iechyd meddwl, ac maent mewn perygl o ailadrodd anghyfiawnderau gwaethaf systemau lles Ceidwadol y gorffennol.

“Bydd yr ergyd economaidd i Gymru yn anghymesur, ac mae gwrthodiad Llywodraeth Lafur y DU i gyhoeddi asesiad effaith penodol i Gymru yn ergyd i bobl Cymru. Os oes gan Lywodraeth Cymru asgwrn cefn, byddant yn gwrthwynebu’r mesur ofnadwy hwn yn gyfan gwbwl.

“Efallai bod Llywodraeth y DU wedi cynnig consesiynau tymor byr, ond ni fydd mân newidiadau o amgylch yr ymylon yn trwsio system sydd wedi torri. Yr hyn sydd ei angen arnom yw buddsoddiad mewn cyflogaeth gynhwysol, cefnogaeth unigol, ac arbedion tymor hir trwy lesiant gwirioneddol deg – nid toriadau sy’n gwthio pobl ymhellach i galedi.

"Mae ein hymateb i'r ymgynghoriad yn amlinellu pam y bydd ASau Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y Bil hwn yn yr ail ddarlleniad yr wythnos nesaf."

Diwedd.

 

Pathways to Work: Reforming Benefits and Support to Get Britain Working - Plaid Cymru Consultation Response (Saesneg yn unig)