Toriadau lles: Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynd yn erbyn ei ‘daliadau cryf’ blaenorol
Yn 2015, torrodd Jo Stevens chwip Llafur i bleidleisio yn erbyn toriadau lles
Heddiw, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif yn ystod Cwestiynau Cymru, gan dynnu sylw at yr effaith ddinistriol y mae’r cynnydd mewn yswiriant gwladol a’r toriadau lles yn mynd i’w gael ar fusnesau a chymunedau yng Nghymru.
Yn ystod y sesiwn holi, cyfeiriodd Ms Saville Roberts at bryderon penodol gan fusnesau lleol a gwasanaethau hanfodol yn ei hetholaeth yn Nwyfor Meirionnydd, gan nodi:
“Mae salon gwallt Elaine yn Llanrug, meithrinfa Pitian Patian yn Llanwnda, cartrefi gofal a meddygfeydd ar draws Dwyfor Meirionnydd yn dweud wrthaf y bydd y cynnydd mewn yswiriant gwladol sy’n dod mewn ychydig wythnosau yn unig yn eu hatal cyflogi staff newydd. Mae ei Llywodraeth yn dweud eu bod yn gwneud toriadau lles i gael pobl i mewn i swyddi. Pa swyddi?”
Heriodd Ms Saville Roberts Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS, i gyfiawnhau sut mae’r polisïau hyn yn cyd-fynd â bwriad y Llywodraeth i gynyddu cyflogaeth, gan rybuddio y byddai’r mesurau, mewn gwirionedd, yn arwain at lai o gyfleoedd gwaith a mwy o galedi i fusnesau a gweithwyr.
Mae’r toriadau lles sy’n debygol o gael eu cyhoeddi’n fuan yn cynnwys cyfyngiadau ar gymhwysedd ar gyfer y Taliad Annibynnol Personol (PIP), sy’n darparu cymorth gyda chostau byw ychwanegol i’r rhai sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor, a thoriadau i fudd-daliadau analluogrwydd i bobl sydd methu gweithio ac sy’n derbyn allant weithio ac sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.
Atgoffodd Liz Saville Roberts AS yr Ysgrifennydd Gwladol o’i gwrthwynebiad yn y gorffennol i doriadau lles, a’r ffaith bod y ddwy ohonynt wedi rhannu’r un safbwynt yn 2015 pan heriodd Ms Stevens y chwip Llafur i wrthwynebu’r hyn yr oedd hi wedi’i ddisgrifio bryd hynny fel polisïau Torïaidd ‘cywilyddus’.
Gofynnodd Ms Saville Roberts:
“Yn ôl yn 2015, cerddodd yr Ysgrifennydd Gwladol a minnau drwy’r un lobi bleidleisio yn erbyn yr hyn a ddisgrifiodd bryd hynny fel toriadau lles ‘cywilyddus’ gan y Torïaid, a meiddiodd dorri chwip Llafur i wneud hynny. O ystyried ei daliadau cryf bryd hynny, sut gall hi gyfiawnhau aros mewn cabinet sydd â’r bwriad o weithredu toriadau lles fel y Torïaid?”
Mewn ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod Llafur wedi diwygio’r system les oedd yn bodoli o dan y Torïaid sydd ar hyn o bryd “y gwaethaf o ddau fyd”, ond ni aeth i’r afael â chwestiwn Ms Saville Roberts yn uniongyrchol.
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Ms Saville Roberts:
“Mae brad Llafur o bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn dod yn gliriach bob dydd. ‘Newid’ oedd eu haddewid, ond yn lle hynny, rydym yn gweld parhad o galedi creulon, tebyg i’r hyn a fu o dan y Ceidwadwyr, na fydd yn gwneud dim i wella bywydau pobl yn ein cymunedau.
“Pan roedd hi’n aelod o’r meinciau cefn, roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hollol iawn I ferniadu toriadau lles y Torïaid yn llym, ond mae’n hapus i gadw’n dawel tra bod Llafur yn gwneud yr un peth. Dyma’n union y mae Prif Weinidog Llafur Cymru yn ei wneud hefyd. Mae ein cymunedau’n haeddu cynrychiolwyr sy’n sefyll dros eu buddiannau."