Plaid Cymru yn annog Llywodraeth y DU i ailystyried ei safbwynt cyn Trydydd Darlleniad y Mesur yn Nhy'r Arglwyddi

Mae’r Mesur a arweiniwyd gan Blaid Cymru wedi pasio’i gyfnod adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi a bellach yn barod am ei drydydd darlleniad

Mae Mesur fyddai’n trosglwyddo’r cyfrifoldeb am Stâd y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru wedi pasio’r cyfnod adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ddiwrthwynebiad, ac y mae bellach yn barod am ei drydydd darlleniad.

Nod Mesur Stâd y Goron (Datganoli i Gymru), a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Dafydd Wigley o Blaid Cymru, yw ceisio sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru - gan gynnwys hawliau dros wely’r môr a datblygiadau gwynt y môr - yn cael eu rheoli o Gymru ac er lles pobl Cymru.

Mae’r Mesur wedi’i seilio ar gynsail a osodwyd gan Lywodraeth y DU o ddatganoli Stâd y Goron i’r Alban trwy Ddeddf yr Alban 2016. Yn 2023–24, yr oedd yr Alban ar ei hennill o £113 miliwn mewn refeniw o Stâd y Goron ddatganoledig. Ar y llaw arall, San Steffan sy’n parhau i reoli Stâd y Goron Cymru, ac nid yw Senedd Cymru yn derbyn unrhyw fudd uniongyrchol o’r fath.

Yn ystod y ddadl ar gyfnod Pwyllgor y Mesur, tynnodd yr Arglwydd Wigley sylw at y gefnogaeth wleidyddol eang sydd gan yr ymgyrch, gan nodi fod pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru - ar draws ystod o bleidiau gwleidyddol - wedi pasio cynigion yn galw am ddatganoli Stâd y Goron.

Mae Plaid Cymru nawr yn annog Llywodraeth y DU i gefnogi Mesur Dafydd Wigley pan fydd yn dychwelyd i Dŷ’r Arglwyddi am ei drydydd darlleniad wedi gwyliau’r haf, fyddai wedyn yn caniatáu iddo gael ei drosglwyddo i Dŷ’r Cyffredin.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar Ynni, Llinos Medi AS, bod hyn wedi rhoi “momentwm newydd” i ymgyrch Plaid Cymru i ddatganoli Stâd y Goron.

Gwrthododd Llywodraeth Lafur y DU alwadau Plaid Cymru i roi rheolaeth dros Stâd y Goron i weinidogion yng Nghymru ym mis Chwefror, gydag ASau Llafur – gan gynnwys y rhai o Gymru, yn pleidleisio yn erbyn gwelliant Llinos Medi AS i Fesur Stâd y Goron y Llywodraeth.

 

Meddai’r Arglwydd Dafydd Wigley o Blaid Cymru:

“Mae hanes yn dangos bod Cymru wedi gweld eraill yn manteisio ar ein hadnoddau naturiol, boed hynny’n lo, yn fwynau eraill neu’n adnoddau dŵr – rhywbeth y mae Birmingham a Llundain bellach yn gynyddol ddibynnol arnynt. Yn yr un modd, dyma ni’n gweld eraill yn manteisio ar ein potensial ym maes ynni - y tonnau, cerrynt y môr, dyfroedd aberoedd, gwynt ar dir ac yn y moroedd o gwmpas ein glannau.

“Mae fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru a minnau eisiau gweld y budd mwyaf oll o brosiectau o’r fath yn dod i economi Cymru; rydym eisiau gweld hynny’n digwydd mewn modd trefnus sy’n cydnabod y budd ariannol a ddylai ddod i’r sawl sy’n buddsoddi mewn prosiectau o’r fath, ond hefyd i’r cymunedau lle maent wedi eu lleoli.

“O gofio fod y Mesur hwn wedi pasio’r Cyfnod Adrodd yn ddiwrthwynebiad yn yr Arglwyddi, ac o gofio cefnogaeth unfrydol holl gynghorau Cymru i egwyddor y Mesur, yn ogystal â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, dylai Llywodraeth y DU feddwl o ddifrif am hyn, a chefnogi fy Mesur pan fydd yn dychwelyd am ei Drydydd Darlleniad wedi gwyliau’r haf, a phan fydd yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin yn y pen draw, i wneud amser i ASau ei drafod ymhellach.”

 

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar Ynni, Llinos Medi AS:

“Mae pasio Cyfnod Adrodd y Mesur hwn yn Nhŷ’r Arglwyddi yn rhoi momentwm newydd i’r ymgyrch i ddatganoli Stâd y Goron. Ynghyd â chefnogaeth unfrydol pob cyngor yng Nghymru, mae’n amlwg y dylai Llywodraeth y DU yn awr ailystyried eu safbwynt.

“Does gan Lywodraeth y DU ddim cyfiawnhad bellach dros gadw’r pwerau hyn yn San Steffan. Os gall yr Alban reoli ei hadnoddau naturiol ei hun, yna dydy Cymru’n haeddu dim llai. Mater o degwch ac atebolrwydd yw hyn, a rhoi’r grym i gymunedau Cymru lunio eu dyfodol eu hunain.”