“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru – ni ddylai neb gael eu hamddifadu o’u cyfle i’w dysgu”

Mae cynigion newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dod ag addysg Gymraeg i bawb “gam yn nes”, mae Plaid Cymru wedi dweud.

Mae papur gwyn sy’n nodi cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg wedi’i gyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r papur gwyn wedi’i lunio gyda mewnbwn gan Blaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.

Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell, fod y cynigion yn mynd â Chymru ymhellach tuag at sicrhau bod y system addysg yn “darparu’r Gymraeg i bob disgybl mewn ffordd sy’n creu siaradwyr hyderus” ac un lle mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei “normaleiddio” o fewn ein hysgolion a’n cymunedau.

Dywedodd Mr Campbell y byddai’r cynigion yn cynnig “sylfaen” tuag at system addysg sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl.

Croesawodd llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg Heledd Fychan AS y cynigion hefyd.

Dywedodd Ms Fychan fod y system addysg bresennol yn siomi “gormod o’n pobol ifanc” sy’n cael eu “hamddifadu” o’r cyfle i ddysgu eu hiaith genedlaethol ac fe feirniadodd targedau iaith Gymraeg presennol y llywodraeth Lafur.

Dywedodd mai addysg gyfrwng Gymraeg oedd y “ffordd fwyaf effeithiol” i sicrhau bod plant yn dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus gan ganmol ddylanwad Plaid Cymru ar gynigion y llywodraeth sydd bellach yn cynnwys mwy o ysgolion Cymraeg, sef cynnydd mewn addysg Gymraeg ym mhob ysgol. yng Nghymru a sicrhau y bydd pob plentyn yn gadael yr ysgol fel siaradwr Cymraeg hyderus erbyn 2050.

Bydd ymgynghoriad ar y papur gwyn yn cael ei gynnal rhwng 27 Mawrth a 16 Mehefin 2023.

Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell AS,

“Mae’r cynigion yn y papur gwyn yn mynd â ni ymhellach tuag at sicrhau bod ein system addysg yn cyflwyno’r Gymraeg i bob disgybl mewn modd sy’n creu siaradwyr hyderus a lle mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei normaleiddio o fewn ein hysgolion a’n cymunedau.

“Mae’r cynigion yn cynnig sylfaen tuag at system addysg sy’n cyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Heledd Fychan AS,

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. Ond yn anffodus, nid yw pawb yn cael y cyfle i’w dysgu a dod yn siaradwyr hyderus a rhugl.

“Mae nifer cynyddol o rieni a phlant yn sylweddoli manteision dwyieithrwydd a phwysigrwydd yr iaith i Gymru. Ond mae’r system addysg bresennol wedi amddifadu gormod o’n pobl ifanc o’r cyfle i ddysgu eu hiaith genedlaethol.

“Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod plentyn yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus a byddai dylanwad Plaid Cymru ar gynigion y Llywodraeth yn helpu i gyflawni hyn drwy gyflwyno: mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, cynnydd mewn addysg drwy’r Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru a sicrhau y bydd pob plentyn yn gadael yr ysgol fel siaradwr Cymraeg hyderus erbyn 2050 - rhywbeth na fyddai wedi bod yn gyraeddadwy o dan dargedau presennol y Llywodraeth Lafur.

“Mae gan y bil hwn y potensial i greu Cymru gwirioneddol ddwyieithog, lle nad oes neb yn colli allan ar y cyfle i ddysgu a defnyddio ein hiaith genedlaethol. Diolch i Blaid Cymru, mae hyn gam yn nes at gael ei wireddu.”