Mae ‘Miliwn o Siaradwyr’ yn bellach i ffwrdd heb “weithredu radical”, meddai Plaid Cymru

Mae data diweddara’r Cyfrifiad ar sgiliau Cymraeg yn dangos gostyngiad yn y nifer o bobl sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn cael ei yrru’n rhannol gan ostyngiad yn nifer y plant sy’n dweud eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg.

Wrth ymateb i’r data, dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru dros blant, pobl ifanc a’r Gymraeg:

Mae’r data hwn yn dangos nad yw’n ddigon i osod targed yn unig - mae angen gwneud yn ogystal â dweud. Y gwir yw ein bod bellach yn bellach i ffwrdd o nod Llafur o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 nag oedden ni ddeng mlynedd yn ôl.

“Er ei bod yn galonogol gweld cynnydd yn nifer yr oedolion ifanc sy’n dweud eu bod yn medru’r Gymraeg, mae’n hynod o bryderus i weld gostyngiad o’r fath yn y nifer o blant. Mae hyn yn dangos pa mor hanfodol yw rôl athrawon sydd yn medru’r iaith Gymraeg, yn ogystal â buddsoddiad mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Does gennym ni ddim digon o’r naill na’r llall, felly os yw Llywodraeth Cymru o ddifri’ am gyrraedd eu targed, mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau rhagor o fuddsoddiad yn y meysydd hyn.

“Mae’r ffaith bod gostyngiad yn y nifer o oedolion sy’n gallu siarad Cymraeg yn yr ardaloedd hynny o Gymru sydd hefyd wedi gweld cynnydd mawr mewn ail gartrefi, yn dangos yr effaith ar yr iaith pan mae cymunedau wedi’u chwalu fel hyn.

“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro i sicrhau bod mynediad at ddysgu a defnyddio’r Gymraeg ar gael i bawb yng Nghymru. Mae’n bryderus iawn i weld y dirywiad hwn mewn niferoedd o siaradwyr Cymraeg o dan oruchwyliaeth Llafur. Mae Cymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, ond mae angen mwy na geiriau cynnes arnom er mwyn sicrhau bod ein hiaith yn goroesi – mae angen gweithredu radical arnom.”

 

Prif bwyntiau (o wefan Llywodraeth Cymru):

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, dywedodd 538,300 o bobl tair oed neu'n hŷn, sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, eu bod yn gallu siarad Cymraeg, sef 17.8% o'r boblogaeth.
  • Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011, ac 1.2 pwynt canran yn is na Chyfrifiad 2011.
  • Y ganran o bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021 oedd yr isaf i’w gofnodi mewn cyfrifiad erioed.
  • Bu gostyngiad o 6.0 pwynt canran mewn plant rhwng 5 a 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Bu gostyngiad tebyg ar gyfer plant 3 i 4 oed.
  • Bu cynnydd bach yn y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn y grwpiau oedolion ifanc (pobl 16 i 19 oed a phobl 20 i 44 oed yn y drefn honno),
  • Bu gostyngiadau yn y grwpiau hŷn.