Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS ac arweinydd San Steffan Liz Saville Roberts AS wedi rhyddhau datganiad cyn blwyddyn llawn ar ol ymosodiad Hamas ar 7 Hydref, a ysgogodd y rhyfel presennol yn Gaza, sydd bellach wedi lledu i Libanus gyfagos, gan ddwysáu tuag at argyfwng ranbarthol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth a Liz Saville Roberts:

"Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers sioc ac arswyd ymosodiad Hamas ar Hydref 7fed, ac yna ymateb parhaus, anghymesur Israel, sydd hyd yma wedi hawlio dros 40,000 o fywydau.

"Nawr, gyda goresgyniad de Libanus ac ergydion taflegryn Iran, mae'r gwrthdaro mewn perygl o waethygu i ryfel rhanbarthol ar raddfa lawn. I osgoi trychineb, mae angen cadoediad ar unwaith ar draws y rhanbarth, rhyddhau pob gwystl, ac i gyfraith ryngwladol gael ei weithredu.

"Mae'r gwrthdaro cynyddol hwn yn dinistrio'r rhanbarth ac yn fygythiad difrifol i sefydlogrwydd byd-eang. Rhaid i'r DU a chenhedloedd eraill y Gorllewin ddwysau ymdrechion diplomyddol i ddad-ddwysáu'r sefyllfa. Mae dod â’r holl allforion arfau o’r DU i’r rhanbarth i ben yn hanfodol i atal rhag gwaethygu ymhellach.

"Mae gan Gymru hanes balch o gymryd safiad ar faterion rhyngwladol. Ym mis Tachwedd 2023, drwy gefnogi cynnig gan Blaid Cymru, daeth y Senedd yn un o’r seneddau cyntaf yn y byd i alw am gadoediad yn Gaza. Wrth i fygythiad rhyfel rhanbarthol ehangach ddod i’r amlwg, rhaid inni ailddatgan ein hymrwymiad i heddwch."