Gweinidogion Llafur yn gweithredu gyda’r ‘un haerllugrwydd’ â’r Torïaid wrth wrthod ysgwyddo cymryd cyfrifoldeb

Ar ôl wythnos o argyfwng dwfn o fewn Betsi Cadwaladr, a chatalog o fethiannau iechyd, mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud heddiw (dydd Sadwrn 4 Mawrth) nad oes gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan “unrhyw awdurdod” bellach a’i fod i fyny i’r Prif Weinidog i ddod ag arweinyddiaeth newydd i mewn.  Roedd yn siarad cyn ei araith yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn Llanelli.

Tra bod rhoi’r bwrdd yn ôl o dan fesurau arbennig yr wythnos hon wedi’i groesawu’n gyffredinol – ac mewn gwirionedd ni ddylai byth fod wedi’i ddwyn allan o fesurau arbennig yn 2020 – mae penderfyniad Eluned Morgan i fychanu a diswyddo Aelodau Annibynnol y bwrdd wedi’i feirniadu’n eang, gyda llawer yn honni mai nhw oedd y targed anghywir. Dywedodd Aelodau’r Bwrdd nad oedd ganddyn nhw “hyder yng ngafael Llywodraeth Cymru o’r sefyllfa”. Dywedodd Eluned Morgan yn ddiweddarach “nad ei swydd hi oedd cael gafael” ar y sefyllfa.

Yr wythnos diwethaf, galwodd Mr ap Iorwerth ar y Gweinidog Iechyd i ystyried ymddiswyddo.

Dywedodd y byddai’n parhau yn ei swydd “cyhyd â bod gan y Prif Weinidog hyder” ynddi. Cyn ei araith i gynhadledd Plaid Cymru, Aelod Seneddol Ynys Môn ac ymgeisydd ar gyfer etholiad San Steffan sydd i ddod, ailadroddodd Rhun ap Iorwerth ei gred bod y Gweinidog wedi colli hyder y bobl a wasanaethir gan y bwrdd iechyd, ac o ystyried bod y Gweinidog yn gwrthod cymryd atebolrwydd, felly mater i'r Prif Weinidog oedd “gwneud y peth iawn”.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth “mewn democratiaeth, mae’r awdurdod i lywodraethu llif o’r bobol”, ond bod Eluned Morgan “yn amlwg” wedi colli’r awdurdod hwnnw.

Fe fydd cyfle i bleidleiswyr Ynys Môn “droi eu dadrithiad” gyda Llafur a’r Torïaid yn “weithredu positif” yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, ychwanegodd Mr ap Iorwerth, drwy bleidleisio i Blaid Cymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae pobol Cymru wedi colli ffydd yn y Gweinidog Iechyd.  Dro ar ôl tro, mae hi wedi osgoi craffu ac wedi symud bai ar eraill pan caiff ei herio gyda chanlyniadau trychinebus ei pholisïau ei hun.

“Mae hyn yn arbennig o wir yn y gogledd.  Mae cleifion a staff Betsi Cadwaladr yn haeddu gwell gan eu llywodraeth. Y lleiaf maen nhw'n ei haeddu yw ymddiheuriad, ond yr hyn sydd ei angen arnom ni i gyd yw i'r llywodraeth gamu i fyny a chymryd cyfrifoldeb am y llanast hwn.

“Mewn democratiaeth, mae’r awdurdod i lywodraethu yn llifo oddi wrth y bobl.  Mae’n amlwg nad oes gan Eluned Morgan yr awdurdod hwnnw. Os nad yw hi’n fodlon cymryd cyfrifoldeb yn awr, dylai’r Prif Weinidog wneud y peth iawn ar ran pobl Cymru, a chael gwared ar ei Weinidog Iechyd.

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth fod arwyddocâd ehangach i’r amharodrwydd ar ran y Gweinidog Llafur i dderbyn cyfrifoldeb:

“Fe wnaethon ni frwydro dros ddatganoli er mwyn i ni allu dylunio gwleidyddiaeth oedd yn wahanol i wleidyddiaeth elitaidd San Steffan.  Mae Gweinidogion Ceidwadol – a Phrif Weinidogion – wedi cael eu gwawdio, yn gwbl briodol, am eu haerllugrwydd cywilyddus tuag at y cyhoedd.  Ond yma gwelw  weinidogion Llafur hefyd yn gweithredu fel pe baent y tu hwnt i feirniadaeth, wedi'u cysgodi rhag craffu.

“Cyn bo hir, bydd pobol Ynys Môn yn cael cyfle i roi dyfarniad ar record y Ceidwadwyr a gweithredoedd Llafur.  Ethol AS Plaid Cymru yw’r ffordd orau o droi ein dadrithiad yn weithredu positif dros bobl Ynys Môn.”