Vaughan Gething yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog
Mae Plaid Cymru yn galw am etholiad Senedd snap
Wrth ymateb i ymddiswyddiad Vaughan Gething fel Prif Weinidog ac Arweinydd Llafur Cymru, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth:
“Mae pobol Cymru wedi colli ffydd yn y Prif Weinidog, yn hwyr iawn mae wedi gwneud y peth iawn ac wedi ymddiswyddo.
“Ond mae pobl Cymru yn colli hyder yng ngallu Llafur i lywodraethu Cymru.
“Gallai hwn fod y trydydd Prif Weinidog Llafur mewn saith mis – cylch cythreulig o anhrefn.
“Mae Llafur wedi rhoi buddiannau’r blaid o flaen buddiannau’r genedl ers gormod o amser.
“Rhaid rhoi’r cyfle i bobl Cymru ethol llywodraeth newydd a rhaid galw etholiad.
“Mae Plaid Cymru yn barod i wasanaethu gyda llwyfan sy’n rhoi tegwch ac uchelgais wrth ei galon.
“Mae pleidleiswyr ar hyd a lled Cymru yn haeddu llywodraeth ddi-ildio wrth fynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw – o restrau aros y GIG uchaf erioed a ffrewyll tlodi plant, i ganlyniadau addysgol is na’r cyfartaledd ac adeiladu economi sy’n gweithio i bawb.
“Ar ôl 25 mlynedd wrth y llyw, nid yw Llafur yn gallu ailadeiladu ac adnewyddu o’r tu mewn."