Arweinydd Plaid Cymru i amlinellu gweledigaeth ei blaid ar gyfer dyfodol prosiectau ynni Cymru.

Byddai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru yn sicrhau bod cymunedau Cymru yn elwa o brosiectau ynni Cymru, meddai Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Mewn araith mewn digwyddiad a gynhelir gan Ynni Cymunedol Cymru ym Mhartneriaeth Ogwen ym Methesda, bydd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn amlinellu gweledigaeth ei blaid ar gyfer dyfodol y dirwedd ynni yng Nghymru.

Bydd Rhun ap Iorwerth AS hefyd yn datgan cefnogaeth 'ddiamwys' ei blaid i ynni adnewyddadwy a'r uchelgais i weld cymunedau 'hyd a lled Cymru' yn harneisio pŵer a photensial ynni adnewyddadwy, tra hefyd yn gwneud yn glir bod rhaid i les cymunedau fod wrth wraidd strategaeth ynni Llywodraeth Cymru.

Yn ei araith, bydd Arweinydd Plaid Cymru yn cyhoeddi sawl cam y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn ei gymryd i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn elwa o brosiectau ynni yn eu cymunedau, camau sydd wedi'u cynllunio i "gefnogi trawsnewidiad gwyrdd cyfiawn sy'n gweld cymunedau yn cymryd mwy o'u dyfodol economaidd i'w dwylo eu hunain".

Bydd Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi bwriad Plaid Cymru i:

  • fynnu isafswm cyfran perchnogaeth gymunedol rhwng 15 a 25% ar gyfer pob prosiect ynni dros 10 MW, neu ddull cyfatebol o sicrhau buddion cymunedol, tra hefyd yn cynyddu nifer y cymunedau sydd â'r gallu a'r cyfle i brynu i mewn i brosiectau ar raddfa,
  • sefydlu corff ynni cenedlaethol i Gymru a fyddai'n gyfrifol am ddatblygu prosiectau ar raddfa fawr, ymgorffori perchnogaeth gymunedol ystyrlon, a chefnogi mentrau ynni cymunedol ar raddfa lai.

Disgwylir i arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

"Mae Plaid Cymru yn cefnogi ynni adnewyddadwy yn ddiamwys yn union fel yr ydym yn credu bod yn rhaid i les cymunedau fod wrth wraidd strategaeth ynni Llywodraeth Cymru.

"Yn wahanol i Reform sydd yn gwadu bodolaeth newid hinsawdd, rydym yn gwybod nad yw'r trawsnewidiad i Sero Net ac i fwy o hunangynhaliaeth ynni mewn oes o ansicrwydd byd-eang cynyddol yn ddewisol.

"Mae gennym ddigonedd o wynt, dŵr a thonnau sy’n golygu bod gan Gymru'r potensial i fod yn bwerdy ynni gwyrdd. Wedi'i wneud yn iawn, mae'r trawsnewidiad ynni gwyrdd yn dod â chyfleoedd cymdeithasol ac economaidd mawr. Rwy'n glir y gall, a rhaid i gymunedau Cymru elwa yn llawn o ynni adnewyddadwy Cymru. Ac mae hynny'n cynnwys cyfran deg o'r elw.

"Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol? Mae'n golygu adeiladu'r seilwaith sydd ei angen arnom mewn ffordd sy'n lleihau ac yn gweithio i wrthbwyso'r effaith ar y rhai sy'n byw agosaf ato. Uwchlaw bopeth, mae'n golygu mwy o berchnogaeth leol a chymunedol o ynni a gynhyrchir yng Nghymru.

"Yn y pen draw, rydym yn credu mai cynyddu cyfran perchnogaeth cymunedau mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yw'r ffordd orau o sicrhau lefel uwch o ail-fuddsoddi yn y cymunedau hynny yn yr hirdymor. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn mynnu isafswm cyfran perchnogaeth gymunedol o rhwng 15 a 25% ar gyfer pob prosiect ynni dros 10 MW, neu ddull cyfatebol o sicrhau buddion cymunedol fel amod allweddol ar gyfer caniatâd.

"Rydym yn bwriadu sefydlu un corff ynni cenedlaethol i Gymru sy'n gyfrifol am ddatblygu prosiectau ar raddfa fawr, ymgorffori perchnogaeth gymunedol ystyrlon, a chefnogi mentrau ynni cymunedol ar raddfa lai - i gyd wedi'u fframio gan y bwriad clir o gadw mwy o werth o brosiectau ynni adnewyddadwy Cymru yng Nghymru a helpu i leihau biliau ynni dros y tymor canolig i'r tymor hir.

"Os byddaf yn cael y fraint o ddod yn Brif Weinidog Cymru yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, byddwn yn gwneud mwy i gefnogi trawsnewidiad gwyrdd, cyfiawn sy'n gweld cymunedau yn cymryd mwy o'u dyfodol economaidd yn eu dwylo eu hunain.”