Ein Cynllun ar gyfer y Cymoedd

Yn y Cymoedd – o Gwm Aman yn y gorllewin, i Flaenau Gwent a Thorfaen yn y dwyrain – mae llawer o heriau economaidd a chymdeithasol mwyaf ein gwlad.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu Cymoedd, sef Awdurdod Datblygu’r rhanbarth, a fydd â chylch gwaith o yrru’r cyfleoedd economaidd sy’n gysylltiedig â Metro’r Cymoedd, yn enwedig CroesReilffordd y Cymoedd. Bydd yr Awdurdod yn gweithio’n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau’r GroesReilffordd. Trafnidiaeth Cymru fydd yn gyfrifol am adeiladu Metro’r Cymoedd a darparu’r cerbydau, a’r Awdurdod Datblygu fydd yn gyfrifol am ddatblygiad y teithiau ar ei hyd.

Er mwyn annog teithio llesol ar dir adnabyddus o serth y Cymoedd, byddwn yn sefydlu gwneuthurwr beiciau trydanol yng nghalon y Cymoedd. Bydd beiciau wedi’u gosod ym mhob gorsaf drenau i sicrhau teithio didrafferth.

Bydd Cymoedd yn ategu Bargeinion Dinesig Caerdydd a Bae Abertawe, yn hytrach na’u disodli. Bydd yn gweithio’n agos gyda Ffyniant Cymru, yr awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, a’r sector preifat i sicrhau bod caffael cyhoeddus mor lleol â phosib, ac i gydlynu buddsoddiad a busnesau lleol.

Bydd Cymoedd yn cynnull tîm i hyrwyddo datblygiad busnesau yn agos at orsafoedd a mannau cyfnewid y Metro, a’r prif goridorau cymudo. Bydd hefyd yn hyrwyddo ynni adnewyddadwy cymunedol a phrosiectau eraill, fel y nodir yn Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd.

Bydd Cymoedd yn nodi tair canolfan ar draws canol y cymoedd i ddod yn drefi angor, sy’n cysylltu drwy GroesReilffordd y Metro. Merthyr Tudful fydd ffocws datblygiad allweddol coridor Blaenau’r Cymoedd. I roi ysgogiad ariannol i’r rôl hon, bydd yr Awdurdod Datblygu yn mynd ati i gefnogi’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Treftadaeth Ddiwydiannol arfaethedig yng Nghastell Cyfarthfa, gyda’i barc 190 acer ar ddwy ochr i Afon Taf ym Merthyr.

Byddwn ni’n comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar greu tref newydd ar hyd coridor Blaenau’r Cymoedd.

Yn ogystal, bydd yr Awdurdod yn nodi ac yn hyrwyddo nifer o atyniadau blaenllaw yn ymwneud â’r celfyddydau a threftadaeth, a allai sicrhau proffil rhyngwladol mewn lleoliadau ledled y Cymoedd. Fel rhan o’n hymrwymiad i gael ‘mwy na miliwn’ o siaradwyr Cymraeg, bydd yr awdurdod hefyd yn blaenoriaethu creu gofodau Cymraeg er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y Cymoedd.

Bydd yr Awdurdod hefyd yn gyfrifol am ddatblygu Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Bydd hyn yn bwysig er mwyn cyfleu asedau amgylcheddol a threftadol y Cymoedd, nid yn unig i ddarparu rhagor o gyfleoedd hamdden, ond i greu amgylchedd mwy deniadol ar gyfer buddsoddiadau gan fusnesau a thwristiaeth.

CroesReilffordd y Cymoedd

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer strategaeth drafnidiaeth gwerth dros £1 biliwn, sy’n cynnwys CroesReilffordd Caerdydd o Laneirwg i Lantrisant, ynghyd â ‘Lein Gylch’ gyda phont reilffordd dros Afon Taf. Yn ddiamheuaeth, bydd hyn yn gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd. Nawr, mae angen gweledigaeth yr un mor gyffrous ar gyfer y Cymoedd.

Mae angen buddsoddiad mwy penodol yn y Metro i’r gogledd o Gaerdydd, a fydd yn cyflymu’r adfywiad sydd ei angen ar y Cymoedd. Gan ddefnyddio leiniau sydd eisoes yn bodoli, rhai newydd, a rhai wedi’u hadfer, bydd CroesReilffordd y Cymoedd yn cysylltu Treherbert yn y Rhondda gyda Phont-y-pŵl, drwy Bontypridd, Nelson, Ystrad Mynach, Hengoed, y Coed Duon, Trecelyn a Chrymlyn.

Bydd CroesReilffordd y Cymoedd yr un mor berthnasol i drafnidiaeth ag y bydd i ddatblygiad busnesau, adfywio trefol, a thai. Bydd y cynllun o fudd uniongyrchol i dros 250,000 o bobl, gan arwain at ledaeniad mwy teg o weithgarwch economaidd.

Codi’r Genedl: darllen mwy