Llywodraethu Cymunedol Newydd

Mae Plaid Cymru yn credu mewn pwysigrwydd cymunedau a bydd chwe rhanbarth cynllunio strategol yn darparu’r fframwaith ar gyfer ymagwedd chwyldroadol tuag at greu arweinyddiaeth ddemocrataidd newydd ar lefel y gymuned ledled Cymru.  Bydd y 22 awdurdod unedol presennol, sydd wedi bod mor effeithiol yn ystod pandemig y Coronafeirws, yn cael eu cadw. Ochr yn ochr â nhw, byddwn ni’n creu system newydd o Gynghorau Cymuned a Thref fydd â grym, fel sylfaen ar gyfer llywodraeth leol Cymru.

Byddwn yn lleihau nifer y Cynghorau Cymuned a Thref i raddfa fwy effeithiol o oddeutu 150, nifer sy’n cyfateb mewn rhai agweddau â’r 164 o gynghorau dosbarth trefol a gwledig a oedd yn bodoli cyn ail-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ac mewn agweddau eraill â dalgylchoedd ysgolion uwchradd.

Bydd gan y Cynghorau Cymuned a Thref newydd rymoedd cynllunio a rôl ddatblygu economaidd yn hyrwyddo busnesau newydd lleol, mentrau cymdeithasol a chydweithredol, twristiaeth, cynlluniau ynni adnewyddadwy graddfa fach, ac ailgylchu. Byddan nhw’n gyfrwng ar gyfer darparu strategaethau adnewyddu a fydd yn cael eu gosod gan Cymoedd, sef Awdurdod Datblygu’r Cymoedd, Asiantaeth Datblygu Arfor, ac mewn mannau eraill gan Ffyniant Cymru, ein hasiantaeth datblygu economaidd genedlaethol newydd.

Codi’r Genedl: darllen mwy