Datblygiad Cymru gyfan

Ni fydd Llywodraeth Plaid Cymru’n gadael yr un rhanbarth yng Nghymru ar ôl. Bydd Ffyniant Cymru, ein hasiantaeth datblygu economaidd genedlaethol newydd, yn gyfrifol am oruchwylio strategaethau datblygu ar gyfer Clwyd, Powys, Bae Abertawe a’r de-ddwyrain. Mae ystyriaethau ar gyfer datblygu’r rhanbarthau hyn yn cynnwys:

Clwyd

  • Gweithgynhyrchu yw ei rôl economaidd graidd a’i hunaniaeth, gan symud tuag at dechnoleg werdd. Dylai gael ei ystyried fel ‘Gweithdy Cymru’, gyda chwmnïau angor allweddol fel Airbus.
  • Bydd Wrecsam yn dod yn brifddinas ariannol i Gymru, ac yn datblygu fel hyb diwylliannol ffilm a theledu, gan gysylltu Prifysgol Glyndŵr, Cymru Greadigol, Comisiwn Ffilm Prydain, a’r cyngor sir.
  • Fel eu cyfoedion yn Arfor, bydd trefi fel Wrecsam, Rhuthun, Dinbych a Chorwen yn cael eu hyrwyddo fel canolfannau diwylliannol y Gymraeg, gyda ffocws rhanbarthol ar brofiad trefol ifanc sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol y Gymraeg.
  • Datblygu Mostyn fel porthladd dŵr dwfn sy’n arbenigo mewn ynni ar y môr a chynhaliaeth morlyn llanw yn Aber Dyfrdwy a Bae Colwyn.

Powys

  • Dylai ddatblygu diwydiannau unigryw sy’n gysylltiedig â’i ddiwylliant amaeth cryf, gan ychwanegu gwerth gyda chyfleusterau prosesu lleol newydd yn Llanidloes ac Aberhonddu. Byddwn ni’n cefnogi creu Canolfan Ymchwil Gwlân Cymru yn y Drenewydd i ychwanegu gwerth drwy drosglwyddo technoleg a gwybodaeth wrth ddatblygu mentrau newydd.
  • Annog darpariaeth lletygarwch a thwristiaeth gryfach sy’n gysylltiedig â threftadaeth Cymru a cherdded (llwybrau cerdded pellter hir).
  • Mae ei leoliad canolog yn ei wneud yn bwynt cyfarfod allweddol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau. Byddwn ni’n datblygu cyfleuster cynadledda newydd mewn lleoliad addas yn Llandrindod neu Lanfair-ym-Muallt.

Bae Abertawe

  • Fel dinas Cymru ar gyfer cydweithredu academaidd, cyfreithiol a busnes, dylai Abertawe adeiladu ar ei hanes o gwmnïau deillio uwch-dechnoleg y Brifysgol – er enghraifft prosiect Troi Adeiladau yn Orsafoedd Pŵer, a Chanolfan ar gyfer Meddyginiaethau Arbenigol Cymru. Dylid sefydlu tîm ymchwil academaidd diwydiannol yn Llandarcy i ddod o hyd i ddefnydd newydd ar gyfer olew gwastraff a chynhyrchion plastig.
  • Dylai Bai Abertawe ddod yn ganolfan ddatblygu ar gyfer technoleg ynni adnewyddadwy Cymru – mae Plaid Cymru’n ymrwymo i Forlyn Llanw Abertawe a menter gysylltiedig i greu Canolfan Bywyd Môr Cymru.
  • Datblygu cynigion Metro Bae Abertawe, ailagor hen leiniau a gorsafoedd rheilffordd – gan gynnwys y Cocyd, Glandŵr, a Lein Ardal Abertawe – a chreu llwybrau uniongyrchol i Gwm Tawe a Chymoedd Aman gerllaw.

Y De-ddwyrain

  • Dylai Caerdydd barhau i ddenu a chefnogi mentrau na fydden nhw’n ymsefydlu y tu allan i amgylchedd dinesig mawr. Ar yr un pryd, mae angen iddi ddatblygu sail mwy arbenigol o ran cyd-arloesedd, yn enwedig yn y celfyddydau ac ymchwil wyddonol, yn enwedig yn y gwyddorau bywyd.
  • Dylai Sir Fynwy adeiladu ar ei henw da fel prifddinas fwyd Cymru, ac fel lleoliad deniadol ar gyfer busnesau digidol twf uchel.
  • Dylai Casnewydd ganolbwyntio ar ddatblygu ein potensial ynni morol – gyda morlynnoedd llanw, gwynt ar y môr, ac ynni’r tonnau i greu chwyldro Swyddi Gwyrdd.

Codi’r Genedl: darllen mwy