Trawsnewid cynllunio economaidd a gofodol

Mae gan Blaid Cymru weledigaeth hollol trawsnewidiol ar gyfer datblygiad economaidd a buddsoddi Cymru, sy’n seiliedig ar adeiladu, cysylltu a grymuso’r wlad a’n holl gymunedau. Ein blaenoriaeth yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau rhwng rhannau mwy tlawd a chyfoethog y wlad.

Mae rhanbarthau cynllunio strategol presennol Cymru yn ymateb i flaenoriaethau San Steffan, gan gynnwys cronfeydd Bargen Ddinesig a Twf a Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n diystyru tri chwarter Cymru o ran hyfywedd economaidd a diwylliannol, ac yn parhau i olygu bod ein dyfodol yn ddibynnol ar friwsion oddi ar fwrdd rhywun arall, yn hytrach na gwasanaethu fel cyfrwng i gysylltu ein cymunedau yn y gogledd a’r de, y dwyrain a’r gorllewin, a gwireddu potensial ein gwlad.

Ein gweledigaeth amgen yw cynllunio ar mwyn i Gymru gyfan ffynnu, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

  1. Dosbarthu cyfoeth, grym, a buddsoddiad yn deg ar draws Cymru gyfan, drwy dargedu ymyrraeth i’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf.
  2. Gwella cysylltedd o’r gogledd i’r de, ynghyd â’r dwyrain i’r gorllewin.
  3. Gwneud Wrecsam yn brifddinas ariannol i Gymru, gan adeiladu ar ei rôl fel cartref Banc Datblygu Cymru. Byddwn ni’n gosod pencadlys Ffyniant Cymru, ein hasiantaeth datblygu economaidd newydd, yn Wrecsam, ynghyd â cheisio denu sefydliadau newydd eraill fel Banc Cymunedol.
  4. Datgloi potensial datblygu cynaliadwy ein cenedl amrywiol gyfan.

Nid yw’r blaenoriaethau hyn yn golygu y byddwn ni’n troi ein cefnau ar y cynnydd sydd wedi’i wneud gan brosiectau unigol a weithredir yn llwyddiannus gan awdurdodau lleol gyda Bargeinion Twf a Dinesig Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Serch hynny, byddwn ni’n eu cysoni gyda’r angen i ledaenu buddsoddiad a ffyniant yn decach ar draws Cymru gyfan.

Er mwyn hwyluso’r gwaith o weithredu ein gweledigaeth amgen, mae Plaid Cymru’n credu y dylai dyfodol llywodraethu Cymru barhau i gynnwys haenau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wrth wneud penderfyniadau ac y dylid gweithredu ar y lefelau cywir a gydag atebolrwydd democrataidd clir i’r bobl. I’r perwyl hwn, byddwn ni’n diddymu pedwar rhanbarth cynllunio Llafur a’u Cyd-bwyllgorau Corfforaethol annemocrataidd, gyda chwe rhanbarth strategol i ledaenu ffyniant yn deg ar draws y wlad.

Byddwn ni’n creu Swyddfa benodedig ar gyfer Datblygiad a Buddsoddiad Rhanbarthol yn Adran y Prif Weinidog i arwain ar ddatblygiad rhanbarthol ar draws y llywodraeth.

Byddwn ni’n darparu cyllid a sefydliadau economaidd pwrpasol ar gyfer Cymoedd y de ac arfordir y gorllewin, rhanbarth rydyn ni’n alw’n Arfor. Y Cymoedd a rhanbarth Arfor fydd lleoliadau y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus newydd, a byddwn yn symud swyddi presennol sydd wedi’u lleoli yn y brifddinas ar hyn o bryd yno hefyd.

Yn ogystal, byddwn ni’n diddymu’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diffygiol ac yn cyflwyno cynllun datblygu cenedlaethol diwygiedig yn seiliedig ar ein map cynllunio gofodol newydd. Yn ogystal â rhanbarthau Arfor a’r Cymoedd, mae rhanbarthau ar gyfer y gogledd-ddwyrain, y canolbarth, Bae Abertawe, a’r de-ddwyrain, sef Dinas-Ranbarth Caerdydd. Cyfrifoldeb Ffyniant Cymru fydd darparu ar gyfer y rhanbarthau hyn. Ni fydd dim rhan o Gymru’n cael ei gadael ar ôl.

Codi’r Genedl: darllen mwy