100 diwrnod i fynd: Plaid Cymru yn addo llywodraeth a fydd yn sefyll i fyny dros Gymru ac yn 'gwneud gwahaniaeth gwirioneddol'
Gyda dim ond 100 diwrnod tan etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026, mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS wedi dweud mai dim ond Plaid Cymru all gyflawni "arweinyddiaeth newydd gadarnhaol" i Gymru.
Mae arolygon barn olynol wedi gosod Plaid Cymru mewn sefyllfa i gymryd lle Llafur fel Llywodraeth nesaf Cymru – gan gynyddu ei chyfran i 37% yn y pôl diweddaraf, o flaen Reform ar 23% a Llafur ar 10%.
Wrth nodi'r achlysur, dywedodd Mr ap Iorwerth fod cynlluniau ei blaid ar gyfer llywodraethu yn canolbwyntio ar faterion sy'n bwysig i fywydau bobl, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd a chostau byw.
Ailadroddodd mai ei blaid oedd yn y safle orau i atal Reform UK rhag cymryd pwerau yng Nghymru ac i sefyll i fyny dros Gymru ar ôl dros ganrif o oruchafiaeth wleidyddol Llafur.
Meddai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,
“Ymhen 100 diwrnod, pan fydd pobl ar draws Cymru yn mynd ati i fwrw eu pleidlais, gall gymunedau ledled Cymru pleidleisio dros arweinyddiaeth newydd gadarnhaol, mai dim ond Plaid Cymru gall ei gyflawni.
"Mae hynny'n golygu llywodraeth sy'n sefyll i fyny dros Gymru pan fyddwn yn derbyn cam gan San Steffan – fel ar gyllid teg, anghyfiawnder rheilffyrdd, a mwy o bwerau.
"Un sy'n canolbwyntio ar wella ein gwasanaeth iechyd. Un a fydd yn cefnogi busnesau bach newydd a phresennol, yn creu mwy o swyddi da, ac yn cadw cyfoeth yn ein cymunedau.
"Un sy'n canolbwyntio'n glir ar roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant – trwy’r cynnig gofal plant am ddim, y fwyaf hael yn y DU. Ac un a fydd yn dysgu’n plant y sgiliau darllen a mathemateg sydd eu hangen arnynt i lwyddo gyda'n cynllun llythrennedd a rhifedd.
"Dyna'r gwahaniaeth y gall Llywodraeth Plaid Cymru ei wneud – polisïau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymaint o gymunedau.
"Mewn 100 diwrnod, gallwn wneud hyn yn realiti. Ar ôl dros ganrif o oruchafiaeth wleidyddol Llafur yma yng Nghymru, â’r bygythiad o Reform yn real iawn – dim ond Plaid Cymru all gyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen ar ein cymunedau."