Gall 2026 fod yn flwyddyn o obaith ac arweinyddiaeth newydd i Gymru, meddai arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth.

Gan gydnabod yr heriau sy’n wynebu pobl ledled Cymru, o amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd, costau byw cynyddol, ac annhegwch economaidd, dywedodd arweinydd Plaid Cymru fod ei blaid yn cynnig yr arweinyddiaeth yr oedd ei hangen ar Gymru ar ôl 27 mlynedd o oruchafiaeth Llafur.

Cynhelir etholiad cyffredinol y Senedd ar 7 Mai 2026.

Ar hyn o bryd mae Plaid Cymru ar y blaen yn yr arolygon barn yng Nghymru o flaen Reform UK.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod etholiadau’r Senedd yn ras dau geffyl rhwng Plaid Cymru a Reform UK a bod pleidleiswyr yn wynebu dewis o ddau ddyfodol – un a fyddai’n mynd â Chymru yn ôl neu arweinyddiaeth sy’n sefyll dros Gymru, yn dod â phobl ynghyd, ac yn canolbwyntio ar wella bywyd bob dydd, gyda Phlaid Cymru.

Mae gweledigaeth Plaid Cymru yn cynnwys cael y gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd iawn, lleddfu pwysau ar deuluoedd drwy gynnig gofal plant trawsnewidiol, cefnogi busnesau a swyddi lleol Cymru, ac adeiladu Cymru decach a mwy hyderus.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru:

“Mae blwyddyn newydd yn gyfle i edrych ymlaen gyda gobaith ac optimistiaeth ac eleni mae rheswm gwirioneddol i fod yn obeithiol oherwydd gall 2026 fod y flwyddyn y bydd popeth yn newid er gwell i Gymru.

“Rydym i gyd yn gwybod nad yw pethau cystal ag y dylent fod. Mae'n anodd gweld meddyg, mae biliau'n codi, ac mae Cymru'n dal i gael ei thrin fel ôl-ystyriaeth gan San Steffan. Ar draws ein gwlad, mae pobl yn barod am rywbeth newydd.

“Ac ar 7 Mai eleni, bydd gan bobl Cymru'r cyfle i ddewis y dyfodol newydd hwnnw.

“Mae Llafur wedi rhoi'r gorau i Gymru ers tro. Mae bellach yn ddewis rhwng gwleidyddiaeth fydd yn llusgo Cymru am yn ol, neu arweinyddiaeth sy'n sefyll dros Gymru ac yn dod â phobl ynghyd.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn canolbwyntio ar wella bywyd bob dydd: cael y gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd iawn, lleddfu pwysau ar deuluoedd gyda chynnig gofal plant trawsnewidiol, cefnogi busnesau a swyddi lleol Cymru, ac adeiladu Cymru decach a mwy hyderus.

“Gall y flwyddyn newydd hon fod yn ddechrau rhywbeth gwell i Gymru – pennod feiddgar a chyffrous yn hanes ein cenedl. Edrychaf ymlaen at siarad â phobl ledled Cymru yn y misoedd nesaf, cael miloedd o sgyrsiau, a gweithio’n galed i ennill eu hymddiriedaeth bob cam o’r ffordd.