Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru nôl ar y ‘trywydd cywir’ ag arweinyddiaeth newydd a chynlluniau beiddgar
Mae’r etholiad Senedd nesaf yn gyfle hanesyddol i Gymru i ethol Llywodraeth Plaid Cymru sy’n canolbwyntio’n llwyr ar fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r wlad, disgwylir i Rhun ap Iorwerth ddweud mewn cynhadledd i’r wasg (Dydd Mawrth 13 Ionawr 2026).
Wrth siarad ar ddechrau’r tymor Senedd olaf cyn yr etholiad, bydd arweinydd Plaid Cymru yn dweud fod momentwm o bolau piniwn olynol yn dangos fod cefnogaeth i weledigaeth bositif Plaid Cymru dros Gymru yn fwy nag erioed, a bod 2026 yn gyfle i roi Cymru nôl ar y trywydd cywir.
Mae addewid y blaid am arweinyddiaeth newydd wedi’i selio yn ei uchelgais i greu Cymru fwy hyderus - lle mae gan bob plentyn y gallu i lwyddo, busnesau’n cael eu cefnogi, a chleifion yn derbyn gofal iechyd amserol wedi dros 26 mlynedd o gamreolaeth Llafur dros y gwasanaeth iechyd.
Bydd Mr ap Iorwerth yn dweud fod “2026 yn flwyddyn o gyfleoedd newydd” - ac yn wahanol i’r llywodraeth Lafur presennol, ni fydd Plaid Cymru yn cymryd pobl Cymru’n ganiataol. Bydd yn ychwanegu fod y blaid yn gweithio’n fwy caled nag erioed i ennill ymddiriedolaeth pobl Cymru ymhen yr etholiad ar 7 Mai 2026 - ac i atal Reform rhag dod mewn i bŵer.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,
"Mae 2026 yn flwyddyn o gyfleoedd newydd i Gymru, i ethol llywodraeth a’i unig genhadaeth yw creu Cymru decach a mwy uchelgeisiol.
"Boed hynny drwy drwsio'r gwasanaeth iechyd, helpu busnesau yma yng Nghymru i dyfu, cefnogi teuluoedd sy'n cael hi’n annodd gyda'r argyfwng costau byw, neu fynnu tegwch a sefyll i fyny dros Gymru - bydd llywodraeth Plaid Cymru bob amser yn gwneud yr hyn sy'n iawn i’n cymunedau.
"Tra bod momentwm gyda Phlaid Cymru ac mae'r gefnogaeth i'n gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer Cymru yn fwy nag erioed, byddwn yn gweithio'n ddiflino dros y pedwar mis nesaf i adeiladu ymddiriedaeth ac ennill pob pleidlais.
“Dyma’r flwyddyn rydym yn dweud dim mwy i bleidiau Llundain sydd ond yn gweld Cymru fel cam ar y ffordd i San Steffan. Am lawer rhy hir, mae Llafur wedi cymryd Cymru’n ganiataol a nawr maen nhw allan o’r ras. Mae Reform yn ceisio cymryd mantais o hynny trwy chwarae ar bryderon pobl a’i gwneud yn flin, ond Plaid Cymru sydd yn cynnig gobaith ac uchelgais i ddyfodol Cymru - mae Llafur hyd yn oed wedi cyfaddef hyn.
“Dyw pleidleisio dros Blaid Cymru ddim yn bleidlais am newid er mwyn newid yn unig - mae’n bleidlais i roi Cymru nôl ar y trywydd cywir, gyda llywodraeth sydd yn rhannu'r un blaenoriaethau a'i phobl ac ond yn atebol i’r rhai maent yn eu cynrychioli.
“Dewch i ni beidio gwastraffu’r cyfle. Gyda’n gilydd, gallwn wneud hanes ac adeiladu cenedl hyderus trwy bleidleisio am Lywodraeth Plaid Cymru ar 7 Mai 2026.”