Roedd Plaid Cymru eisoes wedi cadarnhau’r rhan fwyaf o’i hymgeiswyr ar gyfer yr etholiad ar y 7fed o Fai y flwyddyn nesaf. Dyma’r blaid gyntaf i gadarnhau'r prif ymgeiswyr ym mhob un o’r 16 etholaethau newydd.

Canmolodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, y tîm ‘rhagorol’ oedd yn barod i ‘sefyll dros Gymru, cyflawni newid go iawn, a chadw Reform allan’.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth,

“Mae gennym yma dîm mor rhagorol o ymgeiswyr Plaid Cymru, rhai sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn eu cymunedau ac yn barod i weithio'n ddiflino i ennill ymddiriedaeth a chefnogaeth pobl ledled Cymru.

“Mae etholiad nesaf y Senedd yn gyfle hanesyddol. Mae Llafur wedi cefnu ar Gymru, ac mae angen arweinyddiaeth newydd ar frys ar ein cenedl - o ran sut rydym yn cael ein trin o fewn y DU a sut mae ein llywodraeth yma adref yn gweithio dros bobl ein gwlad.

“Mae Plaid Cymru yn cynnig yr arweinyddiaeth newydd honno.

“Dyma ein cyfle i ethol, am y tro cyntaf, llywodraeth a Phrif Weinidog a wnaed yng Nghymru a fydd yn sefyll yn ddiflinio dros Gymru, gan wella ein gwasanaeth iechyd, cefnogi teuluoedd gyda chostau byw drwy ehangu gofal plant, ac helpu busnesau i dyfu.

“Mae’r etholiad hwn hefyd yn etholiad ar ddyfodol Cymru. Ni ellir anwybyddu bygythiad Reform UK. Mae polau piniwn yn dangos ei bod yn ras ddau geffyl i fod y blaid fwyaf, a dim ond Plaid Cymru all atal Reform rhag llusgo Cymru a gwleidyddiaeth Cymru yn ôl.

“Mae hwn yn dîm sy’n barod i gyflawni newid er gwell i’n gwlad ac amddiffyn buddiannau Cymru. Byddwn yn gweithio’n ddiflino dros bob cymuned ledled y wlad.”


Gellir gweld y rhestr lawn o ymgeiswyr yma.