Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru na fydd “symud tuag yn ôl” ar brofi yn symud allan o’r cloi i lawr wedi i’r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw gyhoeddi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer symud allan o’r cloi i lawr.

Awgrymodd y Prif Weinidog y gellid llacio rhai cyfyngiadau yng Nghymru ar derfyn y cyfnod tair wythnos presennol o gloi i lawr.

Fodd bynnag, rhybuddiodd, Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC “heb gynllun clir am raglen o brofi helaeth ledled Cymru” gyda strategaeth o brofi, olrhain a chynnwys, na allai Cymru baratoi ar gyfer codi’r cyfyngiadau cloi i lawr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd cysgodol mai strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru oedd “profi ôl-ddrychiol, nid cynyddu” a chrybwyllodd y targed methedig o 8,000 a 5,000 o brofion dyddiol erbyn mis Ebrill, y rhoddwyd y gorau iddo.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn profi 800 o weithwyr allweddol ar gyfartaledd  y dydd, o gymharu â chapasiti o 1,300 o brofion dyddiol. Yn gynharach yr wythnos hon, rhoddwyd y gorau i’r targed o brofi 5,000 o bobl erbyn canol Ebrill.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai porthol archebu profion ar-lein - sydd eisoes yn bod yn Lloegr, yn cael ei lansio yr wythnos hon yng Nghymru; fodd bynnag, ni wireddwyd hyn.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y dylai Cymru ddilyn esiampl De Corea, sydd ag un o’r cyfraddau marwolaethau isaf yn y byd, am eu bod wedi mabwysiadu strategaeth o brofi, olrhain a chynnwys yn gynnar iawn.

Ychwanegodd mai, yn niffyg brechlyn neu driniaethau newydd, yr unig ffordd i dorri allan o’r cloi i lawr oedd trwy fabwysiadu’r un strategaeth o brofi, olrhain a chynnwys.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod hyn yn golygu cael canolfannau profi symudol a gyrru-i-mewn “ar hyd a lled Cymru” gyda’r canlyniadau’n cael eu dychwelyd ymhen 24 awr, cynnydd yn y gallu i gynnal profion bob dydd, a “phrofi miloedd o bobl bob dydd”.

Meddai Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC,

“Mae cyngor Sefydliad Iechyd y Byd wedi bod yn glir o’r cychwyn. I drin Covid-19 yn effeithiol, mae’n rhaid i ni brofi, olrhain a chynnwys.

“Gyda 237 o farwolaethau,  De Corea sydd â’r gyfradd isaf o farwolaethau yn y byd, ac y maent wedi llwyddo i gadw at rywbeth sy’n debyg i normalrwydd am iddynt fabwysiadau’r strategaeth o brofi, olrhain a chynnwys yn gynnar iawn.

“Fodd bynnag, strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru fu un o brofi ôl-ddrychiol – nid cynyddu. Ar hyn o bryd, cannoedd, nid miloedd, o weithwyr allweddol sy’n cael eu profi. Collwyd targedau ac yna rhoddwyd y gorau iddynt yn llwyr. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r porthol archebu arlein – sydd eisoes yn bod yn Lloegr – yn cael ei lansio yr wythnos hon yng Nghymru. Does dim golwg ohono. Targed arall wedi’i golli.
 

“Fedrwn ni ddim paratoi i godi cyfyngiadau’r cloi i lawr heb gynllun clir am raglen o brofi eang ledled Cymru - profi, olrhain a chynnwys, yn union fel De Corea.  Heb frechlyn na thriniaethau newydd, does dim dewis arall.”

“Mae hyn yn golygu cael canolfannau profi symudol a gyrru-i-mewn ar hyd a lled Cymru” gyda’r canlyniadau’n cael eu dychwelyd ymhen 24 awr. Cynnydd yn y gallu i gynnal profion bob dydd. Profi miloedd bob dydd”.

 “Dyw symud tuag yn ôl o ran profi ddim yn ffordd i symud allan o’r cloi i lawr.