Mae Plaid Cymru wedi lansio ymgyrch newydd o bwys i helpu i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru.

Mae’r ymgyrch “DwinPrynunLleol” yn annog aelodau a chefnogwyr y blaid i brynu mwy o fwyd a diod sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol gyda’r nod o helpu’r busnesau hynny i ymdopi â heriau’r pandemig Covid-19 yn ogystal ag adeiladu gwytnwch at y dyfodol.

Cafodd ei lansio gan Llyr Gruffydd AS, gweinidog cysgodol y Blaid dros faterion gwledig a Ben Lake AS, llefarydd y Blaid yn San Steffan ar faterion gwledig, ac y mae’n amlygu sut y gallai’r pandemig, gyda’r arweiniad iawn, roi cyfle i ail-osod yr economi.

Meddai Llyr Gruffydd AS:

“Mae diwydiant bwyd a diod Cymru wedi ei daro’n galed gan y pandemig coronafeirws. Gyda chau bwytai a siopau coffi, a cholli marchnadoedd allforio, collodd llawer o ffermwyr Cymru eu marchnadoedd dros nos. Rydym oll wedi gweld delweddau o laeth yn cael ei arllwys i lawr y draen, ac y mae prisiau cig eidion hefyd wedi cael eu taro’n ddrwg, gan adael ffermydd ar eu colled ac yn cael trafferth dod i ben.

“Bu Plaid Cymru yn ymgyrchu’n galed am weithredu gan y llywodraeth i helpu’r busnesau hyn, ond gallwn oll wneud mwy. Dyna pam ein bod yn annog pawb i ymdrechu fymryn yn galetach i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru lle bynnag y bo modd. Rydym hefyd eisiau dathlu’r cynnyrch gorau yn y byd sydd gan Gymru i’w gynnig.

"O ran ein heconomi a’n cyflenwadau bwyd, mae’r feirws wedi datgelu ac wedi gwaethygu materion a anwybyddwyd ers tro byd, gan gynnwys ein dibyniaeth ar fewnforion. Dyma’r amser i ail-feddwl, ail-osod ac ail-godi ein cyflenwad bwy o lawr gwlad i fyny.

"Mae Llywodraeth y DG yn raddol wedi tynnu’n ôl o bolisi bwyd ac wedi caniatáu i’n diwydiant adwerthu bwyd ganoli fwyfwy mewn ychydig o ddwylo. Dim ond pedwar o gwmnïau sydd yn rheoli 70% o farchnad adwerthu bwyd y DG. Mae’r adwerthwyr bwyd mawr wedi defnyddio’r canoli grym hwnnw i dalu prisiau is ac is i ffermwyr, gan wanhau iechyd ariannol y diwydiant amaeth cartref.

"Yr oedd nam ar ein model o gynhyrchu bwyd hyd yn oed cyn Covid-19. Ac eto, i lawer o bobl a hyd yn oed Llywodraeth y DG, daeth gwendidau a pheryglon y model presennol o gyflenwi bwyd i’r amlwg yn unig pan fu’n rhaid wynebu silffoedd gwag ddydd ar ôl dydd wrth i brynu gwallgof chwalu’r gadwyn gyflenwi doredig."

Ychwanegodd Ben Lake AS: "Bu Plaid Cymru yn ymrwymedig ers amser i ymdrin â’r argyfwng yn y diwydiant bwyd yng Nghymru, sy’n cychwyn gyda pholisi o gaffael lleol. Mae rhai cynghorau yng Nghymru yn caffael nwyddau sylfaenol megis tatws a bara ar gyfer cinio ysgol o Rochdale a Lerpwl. Mae cannoedd o filoedd o bunnoedd yn llifo allan o bwrs cyhoeddus Cymru bob blwyddyn oherwydd bod cynhyrchwyr a mentrau lleol yn cael eu hanwybyddu neu yn methu cystadlu â’r corfforaethau mwy.

"Mae adeiladu diwydiant bwyd gwydn yn golygu nid yn unig cefnogi ein ffermwyr ond hefyd datblygu prosesu a datblygu gwerth ychwanegol i’n deunyddiau crai. I wneud hynny, mae arnom angen llais cryf unedig i ddiwydiant bwyd Cymru i warchod a chefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a’n hamaeth.

"Yng Nghymru,  nid yn unig y mae ein ffermwyr yn stiwardiaid ein hamgylchedd ond hwy hefyd yw asgwrn cefn economaidd cymunedau gwledig a threfi marchnad. Mae amaethyddiaeth Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn yr economi ehangach, gan greu record mewn allforio gwerth dros hanner biliwn o bunnoedd yn 2018 ac yn sylfaen i sector bwyd a diod Cymru sy’n cyflogi dros 240,000 o weithwyr."

Bwriad yr ymgyrch "DwinPrynunLleol" yw taflu mwy o oleuni ar fwyd lleol o ansawdd dda a gynhyrchir ym mhob cwr o Gymru er mwyn gwella diogelwch bwyd a gwella incwm ffermwyr.

Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Bydd yr ymgyrch hon yn annog defnyddwyr i brynu mwy o fwyd sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol, gan gadw gwerth yn yr economi, ein hôl troed amgylcheddol yn isel a chryfhau sefydliadau cymunedol fel marchnadoedd ffermwyr a’r Stryd Fawr leol.

"Dyna pam fod Plaid Cymru yn parhau i weithio gyda’r unedau amaethyddol a mentrau gwledig i hyrwyddo strategaeth fwyd sy’n annog prynu cynnyrch lleol i gefnogi’r economi leol. Byddai hyn yn creu mwy o alw yn ein heconomïau gwledig, ystyriaeth i’r amgylchedd a chynaliadwyedd i’r modd yr ydym yn masnachu a sicrhau pris a dewis teg i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr.

"Gyda darluniau o gnydau heb eu cynaeafu a ffermwyr yn arllwys llaeth i lawr y draen oherwydd diffyg galw, rhaid i ni gofio nad dim ond y pandemig sydd wedi achosi’r problemau hyn. Bu hyn yn mudferwi ers peth amser oherwydd ein model methiannus o gyflenwi bwyd. Dim ond trwy fod yn uchelgeisiol a dweud yn glir na allwn ddychwelyd at bethau fel yr oeddent gan mai dyma arweiniodd at hyn; dyma sut y medrwn gyflwyno diogelwch bwyd ac adeiladu gwytnwch i’n cymdeithas a’n heconomi."