Dim mwy o newidiadau unfed-awr-ar-ddeg ar gyfer myfyrwyr sy'n aros am eu canlyniadau medd Plaid Cymru

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru Siân Gwenllian AS:

“Rhaid bod yn fwy trugarog o lawer tuag at y disgyblion TGAU sy'n aros am eu canlyniadau wythnos nesaf a'i thrin yn well na'r rhai sy'n cael eu canlyniadau Lefel-A a dylid cyhoeddi unrhyw newidiadau yn gynt yn hytrach na'n hwyrach.

“Fe ychwanegodd y newidiadau munud olaf i brosesau graddio Lefel-A at y tensiynau ar gyfer pobl ifanc wrth iddyn nhw ddisgwyl am eu canlyniadau mewn cyfnod sydd eisoes yn eithriadol o bryderus. Mae hi mor bwysig nad yw'r un peth yn digwydd i ddisgyblion TGAU. 

“Rwy'n croesawu'r newidiadau sydd ar y gweill ar gyfer y broses apeliadau a fydd bellach am ddim, diolch i bwysau a roddwyd gan Plaid Cymru dros y dyddiau diwethaf. 

“Rhaid i'r broses apelio newydd fod yn gadarn ac eang a rhaid cyhoeddi'r canllawiau newydd cyn gynted â phosib.”