Mae Siân Gwenllian wedi dweud na ddylai unrhyw berson ifanc ddioddef oherwydd system ddiffygiol

Dylid caniatáu i fyfyrwyr gyfeirio eu graddau Safon Uwch at broses apelio annibynnol sydd ar gael am ddim - dyna neges Gweinidog Cysgodol dros Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS.

Mae Siân Gwenllian yn dymuno gweld “system apelio gadarn, genedlaethol ac annibynnol” yn ymateb i bryderon fod rhai myfyrwyr ar fin gweld graddau is yn eu canlyniadau Safon Uwch na wobrwywyd iddynt gan eu hathrawon.

Gofynnwyd i athrawon asesu graddau pob myfyriwr yn seiliedig ar waith cwrs, ffug arholiadau a gwaith cartref, serch hynny rhoddwyd y graddau drwy broses o ‘safoni’. O ganlyniad, adroddwyd bod miloedd o fyfyrwyr ar fin cael graddau is na’r disgwyl am resymau y tu hwnt i’w rheolaeth.

Dangosodd adroddiad y Comisiynydd Plant, a gyhoeddwyd ym mis Mai, fod 52% o blant rhwng 12 a 18 oed wedi dweud eu bod yn poeni am sut y byddai’r coronafeirws yn effeithio ar ganlyniadau eu harholiadau, a bod 58% yn poeni am syrthio ar ei hôl hi.

Canmolodd Siân Gwenllian athrawon a disgyblion fel ei gilydd am ddangos “gwytnwch anhygoel” yn ystod cyfnod o “ansicrwydd annirnadwy” ac mae wedi galw ar i bob myfyriwr Safon Uwch gael mynediad at gyngor gyrfaoedd, cwnsela a phroses apelio “gadarn, genedlaethol ac annibynnol”. Y peth pwysicaf oll, yn ôl Siân Gwenllian, yw y dylai'r gwasanaethau hyn fod yn rhad ac am ddim.

Mae Siân Gwenllian hefyd wedi galw am i brifysgolion Cymru fod yn hyblyg, a chadw lleoedd ar agor i fyfyrwyr a allai orfod apelio yn erbyn eu canlyniadau.

Dywedodd Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol dros Addysg Plaid Cymru:

“Mae athrawon a disgyblion wedi dangos gwytnwch anhygoel yn ystod yr amser hwn o ansicrwydd annirnadwy.

“Mae’n hollol annheg bod y garfan hon o bobl ifanc wedi gorfod delio â chymaint sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y pryder y mae’r ansicrwydd hwn yn ei achosi, ac i gamu i mewn gyda phecyn o gefnogaeth iddynt yn ystod y cyfnod hwn - mae angen i’r pecyn gynnwys cyngor gyrfaoedd, cwnsela a system apelio genedlaethol, annibynnol, a chadarn. Mae’n rhaid i’r cyfan fod ar gael yn rhad ac am ddim i'n disgyblion.

“Yn ogystal â hynny, mae angen i ddisgyblion unigol ac ysgolion allu cyfeirio eu hunain at y broses apelio. Rhaid i ysgolion sicrhau goruchwyliaeth drylwyr o’r broses hon, fel bod pawb y dylai apelio yn erbyn eu graddau yn gwneud hynny.

“Mae gormod o bwyslais wedi bod ar y system - nawr mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar yr unigolyn, a sicrhau na fydd unrhyw berson ifanc yn dioddef oherwydd y system ddiffygiol hon.”