Adam Price: Mae ar Gymru angen tsar caffael i fynd i’r afael â phroblemau profion a GCP

_104418718_price20nov18.jpg

Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price heddiw wedi dadlau y dylai Llywodraeth Cymru benodi tsar caffael i fynd i’r afael a’r prinder difrifol yng Nghymru o offer profi am Covid-19, Cyfarpar Gwarchod Personol (CGP) a dyfeisiadau meddygol i staff iechyd a gofal rheng-flaen.

Ar hyn o bryd, nid yw Cymru ond yn cynnal profion ar 1,100 o bobl y diwrnod, er eu bod wedi bwriadu cynnal profion ar 6,000. Mae hyn yn dilyn cwymp bargen honedig rhwng Llywodraeth Cymru a’r cwmni preifat Roche a fyddai wedi darparu 5,000 o’r profion hynny.

Gwnaeth Adam Price yr achos dros benodi tsar gyda’r "unig gyfrifoldeb" i gaffael a chyflenwi profion Covid-19, CGP, a dyfeisiadau ocsigen a meddygol i Gymru.

Soniodd am achosion o gartrefi gofal gyda dim ond un neu ddau focs o fygydau llawfeddygol – sydd ond yn ddigon i bara deuddydd ar gyfer un claf, yn ogystal â staff ysbytai yn cael eu gorfodi i wisgo dillad isaf papur dros eu gwallt am nad oedd ganddynt unrhyw beth arall i’w gwarchod.

Meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price: 

"Mae prinder profion Covid-19 a CGP yng Nghymru yn rhwystr difrifol i’n hymdrechion i fynd i’r afael â lledaeniad coronafeirws.

"Rhaid i Gymru gymryd materion i’w dwylo ei hun os ydym am sicrhau contractau pendant a diogel ar gyfer y cynhyrchion hanfodol hyn.

"Dyna pam fy mod yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar caffael, a’i unig gyfrifoldeb fyddai caffael a chyflenwi offer profi, CGP, a dyfeisiadau ocsigen a meddygol ar gyfer staff rheng-flaen yn y sectorau iechyd a gofal.

"Rwyf wedi cael gwybod am gartrefi gofal gyda dim ond un neu ddau focs o fygydau llawfeddygol – sydd ond yn ddigon i bara deuddydd ar gyfer un claf, yn ogystal â staff ysbytai yn cael eu gorfodi i wisgo dillad isaf papur dros eu gwallt am nad oedd ganddynt unrhyw beth arall i’w gwarchod. 

"Yn yr un modd, rydym yn mynd tuag yn ôl o ran profi pan oedd Llywodraeth Cymru wedi addo 6,000 o brofion y dydd erbyn hyn.

"Byddai penodi un unigolyn gyda’r cyfrifoldeb allweddol fyddai’n ein helpu i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon, a sicrhau fod gan Gymru yr holl adnoddau mae arni eu hangen i ymdopi â lledaeniad y feirws."