Cafodd Bil Amaeth newydd y DU ei roi gerbron ASau ddydd Mercher (13 Mai) am y tro olaf wrth iddo gyrraedd camau olaf ei daith drwy’r Senedd.

Ochr yn ochr ag undebau ffermio a grwpiau ymgyrchu, mae Ben Lake AS wedi lobio ar i’r Senedd gyflwyno a chefnogi gwelliannau pwysig i’r Bil. Un o’r gwelliannau hynny oedd cyflwyno gofyniad cyfreithiol yn y Bil i gynnal safonau cynnyrch amaethyddol a chynnyrch bwyd a fewnforir i'r DU o dan gytundebau masnach yn y dyfodol fel eu bod yn cyfateb â’r safonau iechyd, lles ac amgylcheddol anifeiliaid sy'n ofynnol i gynhyrchwyr y DU.

Cyflwynwyd y gwelliant hwn gan Neil Parish AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a gwrthodwyd y gwelliant gan Dŷ'r Cyffredin. Cefnogodd pob Aelod Seneddol Plaid Cymru y gwelliant a dywedodd Ben Lake AS ei fod yn “siomedig” na phleidleisiodd y tŷ o blaid gwelliant i atal mewnforio cynnyrch bwyd o safon is - gwelliant a fyddai yn ei dro wedi cefnogi safonau uchel cynnyrch Cymru.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Heb y gwelliant hwn, nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ar gyfer cytundebau masnach y DU yn y dyfodol i sicrhau bod unrhyw fewnforion amaethyddol neu fwyd yn cael eu cynhyrchu i'r un safonau â'r rhai sy'n ofynnol ar gynhyrchwyr domestig.

“Mae ffermwyr yng Nghymru yn ymdrechu i gynhyrchu bwyd o safon uchel mewn modd cynaliadwy, ond mae’r methiant i gynnwys y diwygiad hwn i’r Bil Amaeth yn bygwth tanseilio’r ymdrechion hyn trwy gadw’r drws yn agored i fewnforion a gynhyrchir i safonau is o safbwynt yr amgylchedd a lles anifeiliaid..

“Rwyf bob amser wedi dadlau, er mwyn amddiffyn ein safonau uchel ein hunain, ei bod yn hanfodol bod tegwch i ffermwyr Cymru o safbwynt mewnforiion. Mae’n eithriadol bwysig nad yw ffermwyr yng Nghymru dan anfantais trwy orfod cystadlu â mewnforion sy'n cael eu cynhyrchu i safonau is. Rwy’n mawr obeithio y bydd y gwelliant hwn yn cael ei fabwysiadu gan Dŷ’r Arglwyddi, fel bod gan Dŷ’r Cyffredin gyfle arall i’w gefnogi.”